Darlith radio a weddnewidiodd hanes yr iaith Gymraeg.
Ar Chwefror 13, 1962, gwahoddwyd Saunders Lewis yr ysgolhaig, dramodydd, bardd a gwleidydd, i draddodi darlith flynyddol y 成人快手 ar y radio.
Tynged yr Iaith oedd ei destun a brawychodd y genedl wrth awgrymu marwolaeth yr iaith yn gynnar yn yr unfed ganrif ar hugain.
Defnyddiodd enghreifftiau o bobl bob dydd yn gwneud safiad dros yr iaith Gymraeg, er enghraifft, teulu'r Beasley o Langennech na dalodd ei dreth cyngor am 8 mlynedd gan fod y Cyngor Lleol yn gwrthod cyfathrebu'n swyddogol yn yr iaith Gymraeg.
"Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo," dywedodd Saunders Lewis. Ei gred ef oedd fod iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth a bod yn rhaid i bawb fynnu bod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol. Erfyniodd ar y gwrandawyr hefyd i ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd. Fe fyddai colli'r iaith meddai "yn sioc a siom i'r rheini ohonom ni sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg".
Roedd y ddarlith yn feirniadaeth llym ar arweinyddiaeth Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru. Dadlodd Saunders Lewis fod angen plaid fyddai'n cefnogi pobl fel Eileen a Trefor Beasley a oedd yn brwydro dros y Gymraeg.
Galwodd ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu taliadau. Er bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd : "Fe ellir achub y Gymraeg", ac mai "trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo"
Cafodd y ddarlith ddylanwad pell-gyrhaeddol ac fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn sg卯l y ddarlith hon. Yn ei lythyr at Saunders Lewis (dyddiedig 21 Gorffennaf 1963), dywed Owain Owain, sefydlydd Cymdeithas yr Iaith: "...hoffwn i chwi gael gwybod fod eich sgwrs radio yn dwyn ffrwyth ar ei milfed (os byw'r Gymraeg yn yr 21 Ganrif, i chwi mae'r diolch)."
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Geiriadur
Adnoddau
Ar-lein
Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.