Troi Plaid Cymru yn rym gwleidyddol
"Mae Prydeindod yn gyfystyr 芒 Seisnigrwydd sy'n ymestyn y diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a'r Gwyddelod."Wyddech chi? : Er iddo hyfforddi'n gyfreithiwr, garddwr masnachol oedd Gwynfor Evans tan ei ymddeoliad.
Ychydig iawn o bobl sydd wedi gwneud mwy na Gwynfor Evans i hyrwyddo achos cenedlaetholdeb, yr iaith a'r diwylliant gan sicrhau eu goroesiad i'r 21ain ganrif.
Yn fab i siopwr mawr yn y Bari fe fagwyd Gwynfor Evans yn yr hen Sir Gaerfyrddin. Er hynny, roedd yn 18 oed cyn iddo ddechrau dysgu Cymraeg.
Dechreuodd ei weithgarwch gwleidyddol yn y coleg pan sefydlodd gangen o Blaid Cymru. Yn heddychwr a Christion o argyhoeddiad dwfn, gwrthododd ymuno 芒'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1945 etholwyd Dr Evans yn Llywydd Plaid Cymru a bu'n flaenllaw iawn yn ymgyrchoedd ei Blaid i geisio ennill llywodraeth i Gymru ac i rwystro cynlluniau Cyngor Lerpwl rhag boddi Capel Celyn a chreu cronfa dd诺r yno.
Er na lwyddodd i rwystro cynlluniau Bessie Bradock a'i chriw, roedd ei amlygrwydd yn gymorth iddo gael ei ddewis yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru pan enillodd sedd Caerfyrddin mewn is-etholiad yn 1966 er mawr syndod i lawer.
Roedd y canlyniad yn sioc enfawr i'r byd gwleidyddol a'r Llywodraeth Lafur yn arbennig a sylweddolodd fod twf cenedlaetholdeb yn fygythiad i'w grym nhw yng Nghymru.
Fe gollodd Gwynfor Evans ei sedd yn 1970 ond llwyddodd i adennill y sedd yn 1974 cyn colli eto yn 1979. Ond fe brofodd yn fuan iawn fod ganddo rym y tu allan i'r senedd.
Yn 1980, fe gododd ofn a dychryn ymhlith llawer pan addawodd y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd. Ond ar yr unfed awr ar ddeg, fe newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl a rhoi caniat芒d i sefydlu'r Sianel.
Rhoddodd Dr Evans y gorau i Lywyddiaeth Plaid Cymru yn 1981 a mynd ati i sgwennu, gan gynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o'i hunangofiant.
Ar ei ben blwydd yn 90 oed yn 2002, derbyniodd deyrngedau lu gan gynnwys Llywydd Plaid Cymru ar y pryd, Ieuan Wyn Jones.
Roedd ysbrydoliaeth ac arweiniad Gwynfor ar hyd y blynyddoedd yn ei wneud yn un o'r Cymry mwyaf mewn unrhyw gyfnod o hanes Cymru.
Bu farw Gwynfor Evans yn 92 mlwydd oed ar Ebrill 21, 2005 yn ei gartref Talar-wen ym Mhencarreg.
Ei funud fawr: Ennill is-etholiad Caerfyrddin yn 1966 er roedd ei fygythiad i ymprydio hyd angau yn unigryw gan iddo orfodi Margaret Thatcher o bawb i newid ei meddwl!