成人快手

Llyfr y Flwyddyn - Rhestr Hir 2011

Rhan o Dlws  Llyfr y Flwyddyn

13 Ebrill 2011

Cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011 ar 'Wedi 7' Ebrill 13

Pedair nofel, dau lyfr hunangofiannol, cyfrol o straeon byrion, cyfrol o ysgrifau a chasgliad o gerddi sydd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn eleni.

Disgrifwyd y rhestr fel un o "amrywiaeth a chyfoeth" gan un o'r beirniaid, Gerwyn Williams.

Cyhoeddwyd pa lyfrau sydd ar y rhestr ar y rhaglen deledu Wedi 7, Ebrill 13 2011, gan droi cefn ar yr arfer o wneud y cyhoeddiad o ddau leoliad, un yn y gogledd a;r llall yn y de.

Y deg llyfr a ddewisodd y tri beirniad, Simon Brooks, Gerwyn Wiliams a Kate Crockett i gystadlu am y wobr fawr o 拢10,000 yw (Cliciwch ar y teitlau i ddaren mwy amdanynt):.

Wedi i'r rhestr gael ei chyhoeddi dywedodd Gerwyn Wiliams:

"Nodweddir Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011 gan amrywiaeth a chyfoeth.

Amlygir yr amrywiaeth gan ystod o genres: pedair nofel gwbl wahanol i'w gilydd, dau lyfr hunangofiannol ffres, cyfrol bob un o stor茂au byrion ac ysgrifau, cofiant anarferol a chasgliad bywiog o gerddi.

Amlygir y cyfoeth gan y deunydd sy'n amrywio o'r personol i'r epig ac o'r lleol i'r rhyngwladol. Ond yr hyn sy'n gyffredin i'r deg teitl yw rheolaeth y gwahanol awduron ar eu mathau penodol o ysgrifennu. Dyma ddatganiad clir o hyder mewn ysgrifennu Cymraeg cyfoes!"

Hwn yw'r trio cyntaf i'r gystadleuaeth gaell ei threfnu yn enw Llenyddiaeth Cymru fel yr adnabyddir yr Academi ers dechrau'r flwyddyn a dywedodd y prif weithredwr, Peter Finch:

"Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn yn aml yn achosi cynnwrf. Mae ei ddetholiad eclectig, cyffrous ac egn茂ol yn dangos dawn ysgrifennu gorau Cymru. Nid yw'r dewis eleni yn eithriad."

Yr awduron sydd ar y rhestr hir Saesneg yw Gladys Mary Coles, Stevie Davies, John Harrison, Tyler Keevil, Patrick McGuinness, Pascale Petit, Alastair Reynolds, Dai Smith, M. Wynn Thomas ac Alan Wall wedi eu dewis gan, Francesca Rhydderch, Deborah Kay Davies a Jon Gower.

Y cam nesaf fydd didoli'r llyfrau hyn ar gyfer rhestr Fer o dair cyfrol Cymraeg a thair cyfrol Saesneg a ddatrgelir ddydd Iau, Mai 19 2011 yn Galeri Caernarfon a Bar Espresso John Lewis, Caerdydd, sy'n noddi'r gystadleuaeth.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a nos Iau Gorffennaf 7 yn Cineworld, Caerdydd.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.