成人快手

Dewi Prysor - Adolygiad o Lladd Duw

Rhan o glawr y llyfr

10 Ionawr 2011

  • Adolygiad Lowri Rees Roberts o Lladd Duw gan Dewi Prysor. Lolfa. 拢9.95.

Wedi darllen tudalen olaf nofel ddiweddaraf Dewi Prysor, Lladd Duw, ac yn gyffro i gyd.

Nofel a hanner a gydiodd yn y dychymyg o'r ddalen gyntaf. Bron nad oedd pawb yn y t欧 yn falch o ngweld i'n gorffen gan i'r llyfr fod yn fy nghanlyn o gwmpas y lle ers peth amser a phawb yn gorfod aros i Mam orffen rhyw ddarn cyffrous arall - eto.

Clawr y llyfr

Er imi fwynhau tair nofel gyntaf Dewi yr oeddwn yn betrus wrth droi at hon gan ei fod y tro hwn wedi camu i dir newydd, i fyd newydd, a rhoi inni nofel sydd yn cynnig llawer iawn mwy a hefyd yn caniat谩u inni edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol iawn.

Disgrifiodd yr awdur ei hun hi fel, "Thriller dreisgar efo sylwebaeth gymdeithasol a sleisen dda o hiwmor tywyll."

Pynciau tywyll

Gyda'r tair nofel gyntaf, Brithyll, Madarch a Crawia, cyfleu bywyd yng nghefn gwlad Cymru mewn gwledd o gomedi a digrifwch yr oedd o ond yma yn Lladd Duw mae'n ymdrin 芒 phynciau hynod dywyll mewn ffordd sensitif iawn ac yn dod a bywyd dau Gymro ifanc sydd yn dianc o grafangau giangstars yn Llundain yn 么l i bentref bach yng nghefn gwlad Cymru yn fyw inni ar y tudalennau - ond, unwaith eto, heb anghofio'r gomedi a'r digrifwch!

Ers clywed gyntaf, yr haf diwethaf, beth fyddai teitl y nofel bum yn dyfalu sut y byddai Dewi yn llwyddo i gyfiawnhau defnyddio'r ymadrodd "Lladd Duw" a sut y byddai pobl o dueddiadau crefyddol yn ymateb iddo.

Yn ystod, ac wedi, darllen y deuwn i wybod pwy yw'r duwiau gan mai edrych y mae ar dduwiau mewn cymdeithas yn hytrach na'r Bod Mawr ei hun - er iddo chwarae gyda geiriau yn aml iawn yn ystod y nofel.

Disgrifiad yr awdur

Fel hyn y disgrifiodd ef ei hun arwyddocad y teitl yn rhifyn Rhagfyr 2010 o'r cylchgrawn WA-w!:

"Mae 'Duw' y teitl yn cynrychioli sawl peth. Y cyntaf ydi sylfaen moesol y gwareiddiad gorllewinol Cristnogol, sef cariad a brawdgarwch. Ond rydan ni'n lladd hynny i gyd r诺an, a difrawder ac unigolyddiaeth sy'n rheoli.

"Yn ail, mae 'Duw' y teitl yn cynrychioli'r Crefydd sydd wedi ei greu gan Ddyn er mwyn cadw brenhinoedd ar eu gorseddi a'r bobl wrth eu traed yn ufuddhau i'r Drefn. Felly mae rhai ohonom yn mynd allan yn bwrpasol i ladd y 'Duw' yma.

"Yn drydydd, mae 'Duw' yn cynrychioli hanfod dynoliaeth - ein hathroniaeth ac egwyddorion personol, be rydan ni isio mewn bywyd, ein gobeithion a breuddwydion, ein man gwyn man draw.

"Ond yn yr oes sydd ohoni, dan law y corfforaethau mawrion sy'n rheoli'r byd, does gan y rhan fwyaf ohonom ddim gobaith gwireddu ein potensial na chyrraedd ein man gwyn man draw. Felly mae'r System fawr yr ydym yn byw ynddi yn lladd gobaith, yn lladd yr ysbryd ddynol ei hun. "

Y stori

Mae stori Lladd Duw yn ymwneud yn bennaf 芒 dau Gymro, Jojo a Didi, sydd ar ffo o grafangau giangstars yn Llundain wedi iddynt ladd un o giangstars mawr y ddinas, Cockeye.

Er bod elfennau o gomedi rhwng y ddau gymeriad mae yna hefyd ochr dywyll iawn i'w cymeriadau fe y daw yn amlwg wrth i'w cefndir a'u bywydau gael eu datgelu yn gelfydd iawn mewn nofel ffantastig.

Magwyd Jojo a Didi yng nghartref plant amddifad Llys Branwen ac yn awr, a'r ddau wedi dychwelyd i'r ardal lle magwyd hwy, mae darnau o'u bywyd yn cael eu datgelu i'r darllenydd.

Bron bod y ffordd mae'r awdur yn datgelu eu hanesion unigol yn ddigon i godi deigryn ac yn eich synnu beth fyddai'n digwydd flynyddoedd yn 么l y tu 么l i ddrysau caeedig - hyd yn oed heddiw tasa hi'n mynd i hynny.

Y canolbwynt yw'r un gyfrinach fawr na fyddai unrhyw adolygydd cyfrifol yn ei datgelu.

Ochr yn ochr 芒 stori Jojo a Didi yn dianc o Lundain cawn ein cyflwyno i deulu Ceri Morgan a rhaid disgwyl tan y bennod olaf cyn cael gwybod beth yw'r cysylltiad tyngedfennol rhwng y cymeriadau.

Hen a newydd

Mae'r nofel wedi ei rhannu yn ddwy, yn Hen Destament ac yn Destament Newydd, ac yn ystod y penawdau cyntaf defnyddir gwahanol steil ysgrifen ar gyfer y gwahanol gymeriadau.

Yn bendant mae Dewi Prysor wedi camu i dir sydd yn gweddu'n neilltuol iddo ef gan greu nofel sy'n llawn digwyddiadau a chyffro o'r dechrau i'r diwedd a minnau yn erfyn am funudau ychwanegol mewn diwrnod i ddychwelyd ati.

A chan fod Dewi yn cyffwrdd 芒 chymaint o them芒u sy'n effeithio ar gefn gwlad heddiw mae diddordeb rhywun yn cael ei gynnal drwy'r amser.

Os ydych yn mwynhau nofelau da gyda gafael ynddynt dydw i ddim yn petruso o gwbl eich cymell i brynu hon yn syth ac wrth wneud hynny rwy'n gobeithio'n fawr y bydd nofel arall debyg yn ei dilyn yn fuan.

Deg allan o ddeg, felly, am wychter gafaelgar ac yffach o stori dda!
Lowri Rees Roberts.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.