Collodd McGoldrick, 18, yn rownd derfynol ei ornest pwysau bantam i Manju Wanniarachchi ond mae'r g诺r o Sri Lanka wedi profi'n bositif i'r cyffur nandrolone. Mae ganddo 14 diwrnod i ofyn am ail brawf. Gorffennodd yr ornest rhwng McGoldrick a Wanniarachchi yn gyfartal 8-8, ond collodd y Cymro ar 么l i'r beirniaid ail-gyfri'r marciau. "Nes i feddwl bod Sean wedi gwneud digon i ennill ar y diwrnod," dywedodd hyfforddwr McGoldrick, Tony Williams. "Mi fydda fo'n bencampwyr haeddiannol iawn." Petai McGoldrick yn cael ei ddyrchafu, byddai hynny'n codi cyfanswm t卯m Cymru i dair medal aur, gan efelychu'r cyfanswm o Melbourne yn 2006.
 |