Roedd Weale yn fuddugol mewn tair set yn erbyn Leif Selby o Awstralia mewn rownd derfynol gyffrous. Y g诺r 47 oed o Lanandras ym Mhowys enillodd y set agoriadol 8-3 ac roedd ar y blaen o 6-2 yn yr ail set. Ond fe darodd Selby yn 么l gan ennill yr ail set i ddod yn gyfartal cyn i Weale hawlio'r aur gan ennill y set olaf o 4-1. Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Weale bellach wedi sicrhau aur yn y senglau yng Ngemau'r Gymanwlad ar 么l arian yn 2006 ac efydd yn 2002. Yr oedd wedi ennill aur fel aelod o d卯m y pedwarawd a ddwy fedal arian yn y parau yng Nghaeredin ym 1986. Dyma'r ail fedal aur i Gymru yng ngemau Delhi wedi buddugoliaeth David Greene yn y ras 400m dros y clwydi. Ac mae Cymru un medal yn brin o'r cyfanswm o 19 a sicrhawyd yn Melbourne bedair blynedd yn 么l pan gipiwyd tair medal aur.
 |