Dyma'r tro cyntaf ers i Pat Bevan ennill aur yn gemau Christchurch ym 1974 y mae merch o Gymru wedi cipio medal yn y pwll nofio. Gorffennodd Carlin yn ail i Kylie Palmer o Awstralia gyda Rebecca Adlington o Loegr yn sicrhau'r fedal efydd. "Mae hi wedi bod yn amser maith ers i Gymraes ennill medal, mae'n anrhydedd mawr," meddai Carlin wedi'r ras. Methu allan ar fedal oedd hanes David Davies yn y 400m dull rhydd, cystadleuaeth yr oedd wedi hawlio medal efydd bedair blynedd yn 么l. Y pencampwr yn Melbourne yn 2006, yr Albanwr David Carry hawliodd yr efydd y tro hwn gyda Ryan Cochrane o Ganada yn ennill yr aur.
 |