Cystadlodd Evans yn y codi pwysau a jiwdo yng Ngemau'r Gymanwlad yn Manceinion yn 2002. Mae Evans, sydd yn 35 oed, bellach wedi ymgymryd 芒 reslo wedi cyngor gan ei chyn hyfforddwr jiwdo Alan Jones. Jones yw hyfforddwr reslo cenedlaethol Cymru erbyn hyn ac fe enillodd Evans fedal aur Prydeinig yn y categori dan-59kg fis diwethaf. Yn ogystal 芒 chystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad mae Evans yn gobeithio bod yng ngharfan rygbi merched Cymru ar gyfer Cwpan y Byd fis nesaf. Mae disgwyl y bydd Evans yn ymddeol o rygbi wedi'r gystadleuaeth er mwyn canolbwyntio ar ei pharatoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn India yn yr Hydref. Er yn dioddef gydag anaf i'w phen-glin ar hyn o bryd mae Evans yn gobeithio bod yn holliach i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd a Gemau'r Gymanwlad.
|