Fe fydd y ferch 24 oed yn cystadlu yn y naid polyn a dyma fydd y tro cyntaf iddi gymryd rhan mewn cystadleuaeth ryngwladol. Enillodd Raine, sydd yn astudio yn UWIC yng Nghaerdydd, fedal efydd ym Mhencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 2009. Ond mae David Guest, oedd i gymryd rhan yn y decathlon yn Delhi, wedi gorfod tynnu allan o d卯m Cymru oherwydd anaf. Dioddefodd y g诺r ifanc 18 oed anaf i'w ben-glin yn ystod Pencampwriaethau Iau'r Byd yn Canada.
 |