Enillodd Breeze fedalau aur yn y gemau yn 2002 a 2006 ym Manceinion a Melbourne a hi hefyd oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli Prydain yn y gamp yn y Gemau Olympaidd. Mi fydd yr athrawes ymarfer corff 31 oed yn gobeithio cipio medal aur arall yn yr adran 63k yn Delhi, 18 mlynedd ar 么l i ddechrau codi pwysau. "Cefais fy nharo'n fyd pan ofynnwyd i mi fod yn gapten," meddai Breeze. "Roedd hi'n foment emosiynol iawn. Mae cael arwain eich gwlad yn anrhydedd ac yn ffordd arbennig i orffen fy ngyrfa." Mae Breeze yn arwain t卯m o 175 fydd yn cystadlu mewn 15 allan o'r 17 o gampau yn Delhi.
 |