Dwi'n siwr bod rhywbeth yn y d诺r ym Methesda.
Dyma chi ardal sydd wedi cynhyrchu nifer o enwogion y byd roc yng Nghymru: Celt, Jackie Williams, Lleuwen Steffan a llawer mwy, ond y mwyaf adnabyddus mae'n siwr gen i yw Maffia Mr Huws, neu Maffia fel mae pawb yn eu adnabod nhw heddiw.
Mae'r stori'n dechrau n么l ar ddiwedd y 70au pan ddaeth y brodyr Sion a Gwyn Jones at ei gilydd gyda Deiniol Morris a Guto Orwig i ffurfio gr诺p o'r enw Weiran Bigog. Yna ym 1981 ymunodd Hefin Huws yn lle Guto Orwig, newidwyd yr enw, a ganwyd Maffia Mr Hughes.
Bu'r band yn gweithio'n galed o gwmpas Bethesda ac yna ym 1982 fe recordiodd Maffia y g芒n Ffrindiau ar gyfer record hir Sesiwn Sosban (Sosban oedd rhaglen roc Radio Cymru ar y pryd, yn darlledu bob bore Sadwrn). Fe ddaeth hi'n amlwg bod dyfodol mawr i'r band a chyn hir dyma nhw'n cyhoeddi eu record sengl gyntaf, Gitar yn y To, hefyd ym 1982.
Roedd y bois yn byw gyda'i gilydd mewn bwthyn ym Methesda - yn byw'r bywyd roc a r么l ac yn gweithio'n rhyfeddol o galed, yn perfformio mewn mwy na 100 o gigs y flwyddyn. Roedd gan y band ddilyniant anhygoel gyda'r "Maffia Maniacs" yn dilyn y band i bob man ac yn gofyn yn gyson am glywed eu caneuon ar y radio.
Fe fu'r band yn fuddugol ddwywaith yn Noson Gwobrwyo Cylchgrawn Sgrech wrth ennill y wobr am y record orau, a'r anrhydedd o ennill tlws prif grwp roc Cymru ym 1983. Nhw aeth 芒'r wobr am brif grwp roc y flwyddyn eto ym 1984.
Yng nghanol yr wythdegau fe ymunodd Alan Edwards 芒'r band i chwarae'r allweddellau, ond yn anffodus, ym 1987, fe laddwyd Alan mewn damwain car yn Llydaw. Ym 1986 bu'r band yn teithio gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr ar "Taith y Carcharorion". Roedd y daith yn un o uchafbwyntiau'r byd roc y flwyddyn honno gan gadarnhau perthynas agos iawn rhwng y band a'r Cynganeddwyr.
Wedi i Hefin Huws benderfynu mynd i fyw i Lundain fe gariodd Maffia i fynd gyda Neil Williams yn canu, ac yn achlysurol fe fyddai John Doyle, Martin Beatty, Kevin Roberts a Les Morrison yn dod i'r adwy. Chwaraeodd y band yng ng诺yl y Faenol yn 2000 ac eto yn 2008.
Mae Maffia wedi cyhoeddi naw record a chas茅t, a CD o oreuon Maffia yn 2008. Y peth pwysig i'w gofio am gyfraniad Maffia yw mai dyma gr诺p o fois go iawn oedd yn canu ac yn cyfansoddi o'r galon am bethau oedd o bwys iddyn nhw ac i bobl ifanc Cymru. Wedi'r cwbwl, dyma gyfnod Thatcher a Reagan pan oedd digon o ddeunydd ar gyfer caneuon di-ri.
Mewn cyfnod pan fu nifer o grwpiau adnabyddus Cymru yn deillio o'r colegau neu'r cyfryngau roedd Maffia'n wahanol - bois o Fethesda yn byw ac yn bod y bywyd roc a r么l go iawn ac mae hynny'n dangos yn y caneuon gwych.
Dyma ni bellach yn 2009 a dyw'r stori ddim ar ben eto. Mae Maffia wedi bod n么l yn y stiwdio, felly pwy a 诺yr, mae'n bosib bod mwy i ddod eto gan un o'r grwpiau roc pwysicaf a welwyd erioed yn y byd roc yng Nghymru. Gwyliwch y gofod...
Richard Rees
Adolygiadau
Adolygiad CD Maffia Mr Huws
08 Medi 2008
Beth yw barn yr adolygwyr am Maffia Mr Huws - Croniclau'r Bwthyn?
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.