成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Mawrth y gwrthod a'r gwerthu

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Ennill Tir

Torrwyd tir newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin pan berfformiwyd opera roc gyntaf yr Eisteddfod. 'Roedd y genhedlaeth ifanc, fel Nia Ben Aur ac Osian, bellach yn cyrchu Tir Na N-Og yr iaith, tir y Bythol Ifanc.

'Roedd y Gymraeg yn ei hieuenctid eto, ac 'roedd mudiad fel Mudiad yr Ysgolion Meithrin yn rhoi delwedd ifanc iddi. 'Roedd Cymru yn dechrau ennill hyder, ar y maes chwaraeon yn ogystal 芒 maes yr ^Wyl, a bellach, gyda'r Llywodraeth yn cyhoeddi ym 1977 ei bod yn bwriadu cynnal Refferendwm ar Ddatganoli yng Nghymru a'r Alban yn y dyfodol agos, 'roedd y wawr ar fin torri.

Ond os oedd yr iaith yn ifanc, 'roedd y 'Steddfod ei hun yn dechrau teimlo'i hoedran, yn enwedig ei phafiliwn. Mewn cyfnod o chwyddiant, aeth cam-wario 芒 hi i ddyfroedd dyfnion. Fe adawyd y pafiliwn am fisoedd cyn ei symud yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1974, a Chricieth,1975, a bu gorfod talu iawndal i berchnogion y tiroedd. Prynwyd yr hen bafiliwn am gost o 拢70,000 mewn panic ar gyfer Eisteddfod Cricieth, ond bu'n rhaid ei werthu fel sgrap ddwy flynedd yn ddiweddarach. Aeth yr Eisteddfod yn fl锚r yn ei gweithgareddau, a hyd yn oed yn ei seremon茂au, fel y gwelwyd yn nefod y cadeirio yn Aberteifi ym 1976. Llwyddodd yr Eisteddfod i oroesi, ac er mor brin oedd y geiniog, 'roedd yn rhaid iddi hithau symud ymlaen 芒'r oes. Erbyn 1978 'roedd y briddinas symudol wedi cyrraedd y brifddinas sefydlog. 'Roedd digon i'w ddathlu yn 'Steddfod Caerdydd: pafilwin newydd, addewid am sianel deledu newydd a Chymru newydd. Ar drothwy'r 'Steddfod 'roedd y rhagolygon y c芒i Cymru ei sianel ei hun a rhyw lun o senedd yn addawol.

Y Cymry yn dwued 'Na'...

 

Radio a Teledu

 
 

Y Cymry yn dweud 'Na'

Ar 么l i'r Blaid Lafur ddychwelyd i rym o ganlyniad i Etholiad Cyffredinol 1974, atgyfodwyd y syniad fod angen rhyw fath o reolaeth ganolog ar Gymru. Er na fyddai'r Cynulliad newydd yn gwbwl annibynnol ar y Senedd yn Llundain, byddai ganddo alluoedd gweinyddol sylweddol, pe bai'n dod i rym. Ar 么l sawl darlleniad a diwygiad, derbyniodd Mesur Cymru y Cydsyniad Brenhinol ddiwedd Gorffennaf.

'Roedd tynged y Cymry, i raddau helaeth, yn eu dwylo'u hunain.

Er bod y Blaid Lafur ei hun yn rhanedig ar fater Datganoli, gyda Chymry amlwg fel George Thomas, Leo Abse a Neil Kinnock yn gwrthwynebu'r cynllun, 'roedd eraill yn gry' o'i blaid, gan gynnwys y Prif Weinidog. Gan ddilyn yn 么l traed Prif Weinidogion eraill a ddaeth i annerch yn y Brifwyl, o Gladstone i Lloyd George, daeth James Callaghan i Gaerdydd i geisio ennill cefnogaeth i'r cynllun datganoli. Callaghan oedd Llywydd y Cyngerdd ar nos Sul yr Eisteddfod ac yn ei araith pwysleisiodd mae ei gred ef oedd y byddai Cynulliad i Gymru yn hybu hunaniaeth Gymreig ac yn cryfhau undod y Deyrnas Unedig ar yr un pryd. Rhyddhaodd y Llywodraeth y Papur Gwyn ar ddyfodol teledu yng Nghymru hefyd ym mis Gorffennaf, gan wireddu addewidion Pwyllgor Crawford bedair blynedd ynghynt. 'Roedd y 成人快手 a HTV i fod yn gyd-gyfrifol am gynnal sianel deledu Cymru, a byddai'r gwasanaeth newydd yn dod i rym ymhen pedair blynedd. 'Doedd argymhellion y Papur Gwyn ddim yn plesio pawb. Torrodd rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith ar draws araith John Morris, ysgrifennydd Cymru, yn yr Eisteddfod i alw am sefydlu'r Sianel ar frys, ac i sicrhau amodau teg iddi hi.

Y Brotest Fawr Olaf...



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy