Lleoliad yr Eisteddfod
Bro Myrddin
Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol
- 81% o lowyr yn pleidleisio dros streic genedlaethol ym Mis Mawrth a'r Prif Weinidog, Ted Heath, yn galw Etholiad Cyffredinol i benderfynu pwy sydd yn rheoli'r wlad, 'y Llywodraeth ynteu'r glowyr'.
Y Toriaid yn colli a Harold Wilson yn 么l fel Prif Weinidog.
- Gwynoro Jones o'r Blaid Lafur yn trechu Gwynfor Evans o dair pleidlais yn etholaeth Caerfyrddin.
Dafydd Wigley, Plaid Cymru, yn trechu Goronwy Roberts, Llafur, yng Nghaernarfon.
- Aelodau Seneddol yn cael yr hawl i dyngu eu llw yn Saesneg ac yn Gymraeg, ond nid yn Gymraeg yn unig. 11 o'r 36 yn manteisio ar y cyfle.
- John Morris yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Y glowyr yn rhoi'r gorau i'w streic a chael 35% o godiad cyflog.
- Cyhaliwyd ail Etholiad Cyffredinol ym mis Hydref a Llafur yn ennill eto. Y tro hwn Gwynfor Evans yn ennill Caerfyrddin yn ol i Blaid Cymru. Dafydd Wigley yn cadw ei sedd, a Dafydd Elis Thomas yn dod yn drydydd Aelod Seneddol Plaid Cymru trwy drechu Wil Edwards, Llafur, ym Meirionnydd.
- Newid Llywodraeth Leol: dod ag wyth cyngor sir i Gymru yn lle'r tri ar ddeg a fu, a ffurfio 37 cyngor dosbarth newydd.
- Richard Nixon yn cael ei orfodi i ymddiswyddo wedi achos Watergate, Gerald Ford yn ei olynu yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
- Darllediad cyntaf Ceefax ar y 成人快手.
- Agor gorsaf radio annibynnol gyntaf Cymru, Sain Abertawe.
- Agor canolfan dechnoleg amgen Machynlleth.
Cau gwaith glo Gresford.
- Georges Pompidou, U-Thant, Duke Ellington, Dr Jacob Bronowski, Eric Linklater a Cornelius Ryan yn marw.
Archdderwydd
Brinli
Y Gadair
Testun. Awdl: ' Y Dewin'
Enillydd: Moses Glyn Jones
Beirniaid: Geraint Bowen, J. Eirian Davies, Dic Jones
Cerddi eraill: Donald Evans, Tom Parry-Jones |