 |
 |
Ym 1922 ffurfiwyd y Gymdeithas Genedlaethol Gymraeg, Cymdeithas y Tair G,
ym Mangor, gan genedlaetholwyr fel Lewis Valentine, E.T.John, hen ymgyrchwr
dros Ymreolaeth i Gymru, ac R.Williams Parry. Yn Eisteddfod Yr Wyddgrug ym 1923, soniwyd am 'ddrilio' mewn gwersyll haf, a chondemniwyd y syniad yn
chwyrn gan y papurau.
Yn ystod Eisteddfod Pwllheli ym 1925 daeth chwe g^wr ynghyd i westy'r Maes
Gwyn ym Mhwllheli i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru. Fe'i ffurfiwyd yn bennaf
drwy ymdrechion Hugh Robert Jones. Ymhlith yr aelodau cyntaf yr oedd Griffith
John Williams, Ambrose Bebb, Saunders Lewis, Lewis Valentine a H.R.Jones
Dechreuodd cenedlaetholdeb dreiddio i mewn i'r Eisteddfod. Enghraifft o hyn
oedd awdl Gwenallt a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Bangor ym 1931, am ei awdl
'Breuddwyd y Bardd'; a phan enillodd Gwenallt y Gadair cipiodd Cynan y
Goron eto, er mai cenedlaetholdeb y b锚l yn hytrach na chenedlaetholdeb y
bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol.
ymlaen...
|
|

|
Y Dyrfa
Deng munud cyn yr olaf bib!
-Y Dyrfa'n ferw mawr,
A'r sg么r yn sefyll rhyngom ni
Yn wastad eto'n awr.
'Roedd Cymru'n pwyso, pwyso'n drwm.
Ac eto - O! paham
Na allem dorri ei hanlwc hir
Wrth chware'n Twickenham?
Cwm Glo
Yn y cyfnod hwn bychan oedd ap锚l Plaid Genedlaethol Cymru, ond 'roedd y
Blaid Lafur yn ennill grym, yn enwedig ar 么l i bob menyw dros un ar hugain
oed gael pleidlais. Ffactor bwysig arall yn nhwf Sosialaeth oedd y bygythiad o chwyldro gwleidyddol a ddigwyddodd adeg y Streic Fawr ym 1926.
Hwn oedd cyfnod yr orymdaith newyn, yr ymfudo mawr o gymoedd y De a galwad
Tywysog Cymru am gymorth i'r di-waith. Ond 'roedd y broblem yn drech na'r
Blaid Lafur. 'Roedd dirwasgiad byd-eang yn bygwth gwasgu'r economi, ac
effeithiodd y wasgfa ar y 'Steddfod hyd yn oed.
Ynghyd 芒 chael effaith ar goffrau ariannol yr Eisteddfod fe welwyd yr
effaith ar y cystadlu. Yn Eisteddfod Castell-nedd ym 1934 daeth storm arall
wedi i'r beirniaid wrthod gwobrwyo drama Kitchener Davies, Cwm Glo, am
fod ynddi ormod o s么n am ryw, er mai dirywiad moesol cymdeithas yng ngafael
y Dirwasgiad oedd gwir thema'r ddrama. Bu trafod dwys ar y ddrama, rhai yn
ei galw'n enllib ar y glowyr Cymreig tra oedd eraill yn ei hedmygu fel
campwaith. Cafodd hyd yn oed George Bernard Shaw ei dynnu i mewn i'r drafodaeth.
ymlaen...
|
|