Ymateb a sylwadau Alan Llwyd
'Gofynnwyd i'r beirdd rodio Afallon yng
nghanol Armagedon y Rhyfel. 'Ystrad Fflur' oedd testun yr awdl a John
Ellis Williams, un o fyfyrwyr John Morris-Jones, oedd y bardd buddugol. Yn
ail iddo, ac yn gyntaf deilwng gan J. J. Williams, 'roedd bardd ifanc
cymharol ddiaddysg ac anadnabyddus o'r enw Ellis Humphrey Evans, neu Hedd
Wyn. Awdl anarbennig oedd yr awdl fuddugol. Yr oedd awdl Hedd Wyn yn tra
rhagori arni, a bu llawer o feio ar John Morris-Jones a Berw am y camddyfarnu.
Dangosodd J. J. Williams yr awdlau i T. Gwynn Jones cyn yr Eisteddfod a chytunai
Gwynn Jones mai awdl Hedd Wyn oedd yr orau.
Y Goron
Ni chynigiwyd Coron.
Gofynnwyd am bedair telyneg a rhannwyd y wobr rhwng Gwili a Wil Ifan.
Y Fedal Ryddiaith
Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor
Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol
Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,
Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.
|