成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1900 - 1913

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Caerfyrddin

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.
  • Gwarchae Sidney Street yn nwyrain Llundain wedi i griw o anarchwyr dan arweiniad 'Peter the Panther' ladd tri phlismon.
  • Cynhaliwyd streiciau gan ddocwyr a morwyr drwy'r haf twym. Saethwyd dau yn y terfysgoedd yn Lerpwl a bu gweithwyr rheilffordd yn bygwth galw streic cenedlaethol.
  • Docwyr a llongwyr ymysg streicwyr yng Nghaerdydd a 500 o filwyr yn cael eu galw i gadw trefn.
  • Mwy o aflonyddwch cymdeithasol yn codi i'r wyneb wedi ymosodiadau ar dai a busnesau Iddewon yn Nhredegar, Bargoed a Glyn Ebwy.
  • Lloyd George yn cyflwyno cynllun Yswiriant Cenedlaethol i dalu i weithwyr pan oeddent yn wael ac yn ddi-waith.
  • 60,000 o swffragetiaid yn gorymdeithio drwy Lundain.
  • Cyfrif yn dangos y ffigwr uchaf erioed (43%) o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
  • Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghernarfon a Lloyd George yn geffyl blaen. Hwn oedd y tro cyntaf ers y Tywysog Charles, Charles 1 wedyn, ym 1616.
  • Agor Oriel Glynn Vivian yn Abertawe.
  • Lansio'r llong Titanic.
  • Gweithwyr siopau yn ennill yr hawl i weithio dim mwy na 60 awr yr wythnos.
  • Marw Mahler.

Archdderwydd                   Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Iorwerth y Seithfed'
Enillydd: Gwilym Ceiriog
Beirniaid: Berw, Elfed

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol ym 1911 pan goronwyd Si么r y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr. 'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Pan ddaeth yr Eisteddfod i Gaerfyrddin ym 1911 daeth y beirdd yno i ffarwelio ag un brenin ac i groesawu brenin arall, ond awdl warthus o wael oedd awdl fuddugol 1911, er na ellid disgwyl dim byd gwahanol gyda'r fath destun. 

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Gwerin Cymru'
Enillydd: Crwys
Beirniaid: J. T. Job, J. J. Williams
Cerddi eraill: Wil Ifan oedd yr ail am y Goron.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Mae'r bryddest hon yn enghraifft arall o Gwlt y Werin, ac yn arwydd hefyd o dwf Sosialaeth yn y cyfnod. Portreadodd Crwys werinwyr Cymru fel pobl ddiwyd, onest a chrefyddol a orthrymid gan landlordiaid.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy