成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Cyfle i ymuno a gr诺p tyrbin
Mehefin 2005
Aelodau cydweithfa ynni adnewyddadwy Canolbarth Cymru yn edrych ymlaen at lansio prosiect arloesol.

Mae aelodau cydweithfa ynni adnewyddadwy Canolbarth Cymru yn dathlu wedi iddynt dderbyn eu tyrbin gwynt diweddaraf ac maent yn edrych ymlaen at gael lansio dyroddiad cyfranddaliadau'r prosiect arloesol.

Clywyd yn ystod Cyfarfod Blynyddol Bro Ddyfi Community Renewables, a gynhaliwyd ym Mhantperthog ar ddydd Sadwrn, Mehefin 11 eg, bod y tyrbin Nordtank 500 cilowat wedi cyrraedd o'r Almaen. Bydd yn cael ei gadw ar fferm Hendreseifion, Llanwrin hyd nes y claw gweddill y cyllid i law ac y bydd modd ei osod yn lle'r prototeip diangen ar Fynydd Glandulas.

Denodd y tyrbin gryn ddiddordeb yn ddiweddar yn ystod Rali i'r Clwb Ffermwyr Ifanc ar y fferm, lle y bu rhai o'r bobl sy'n rhan o'r cynllun yn bwrw golwg arno. Roedd Edward Jones, un o gyfranddeiliaid y gydweithfa, yn frwd yngl欧n 芒'r cynllun. "Mae'n braf iawn gweld y dechnoleg yma'n cael ei rheoli gan bobl leol er budd lleol", meddai. "Mae'r prosiect hwn yn fwy na'r tyrbin cyntaf yng Nghilgwyn, felly mae yma gyfle go iawn i alluogi fwy o bobl leol rannu perchenogaeth arno."

Bydd angen i bobl sydd am gael gwybodaeth am y dyroddiad cyfranddaliadau ymaelodi 芒'r Clwb Buddsoddi Ynni Adnewyddadwy i ddechrau. Cyfrwng yw'r clwb ar gyfer cysylltu byddsoddwyr posibl 芒 datblygwyr addas yn rhad ac am ddim. Dulas cyf., wedi'i leoli ym Machynlleth, sy'n ei redeg. Er bod modd i bobl eu ffonio ar 01654 705018 i ofyn am ffurflen aelodaeth, dywed Andy Warrington o'r Clwb bod ymaelodi arlein yn yn llawer mwy hwylus.

Mae ecodyfi eisoes wedi sicrhau 拢43,000 o gyllid Ewropeaidd i'r cynllun drwy Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru. "Bydd y llog a gawn o'r buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi adfywio cymunedol", meddai Andy Rowland, y Trefnydd. Disgwylir y bydd benthyciad banc ac unigolion 芒'u bryd ar wneud byddsoddiad egwyddorol tymor hir yn cyflenwi gweddill y cyfalaf sydd ei angen i godi'r tyrbin.

"Edrychwn ymlaen at gael croesawu cyfranddeiliaid lleol newydd", meddai John Williams, Cadeirydd y gydweithfa. "Mae newid hinsawdd yn fygythiad i bob un ohonom, a'n bwriad hefyd yw gofalu mai ein cymundd ni fydd yn manteisio o ynni'r gwynt".


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy