Uchos, gwelir llun o rai o'r aelodau a fu'n mynychu'r nosweithiau cadw'n heini yn y Ganolfan Hamdden. Cawsom grant o 拢750 o'r Cynulliad i wneud hyn a mae gweithgareddau wedi bod ar y Nos Iau cyntaf a'r trydydd Nos Iau bob mis. Mae'r cyfan am ddim a rydym yn cael llawer o hwyl. Dyma'r rhaglen am 2008:
17 Ionawr, 2008: 7-8 o'r gloch - Ymarfer corff yn y d诺r
7 Chwefror, 2008: 8-9 o'r gloch - Pilates
21 Chwefror, 2008: 7-8 o'r gloch - Ymarfer corff yn y d诺r
28 Chwefror, 2008: 8-9 o'r gloch - Pilates
Mae croeso i aelodau newydd ymuno gyda ni. Rydym yn cyfarfod ar yr ail Nos Iau bob mis am wyth o'r gloch a rydym yn cyfarfod nesaf ar Chwefror 14 yn y garej yng Nglantwymyn ble fydd Geoff Brynrnelin yn s么n am drin a thrafod ceir a ral茂o.
Croesawyd aelodau newydd atom yn y parti Nadolig ac erbyn hyn mae gennym 37 aelod.
Mwy o Fachynlleth
 |