| |
|
|
|
|
|
|
|
Kate Roberts y Modernydd Glyn Jones yn trafod 'Cyfnod Dinbych' Kate Roberts
Mae dwy ran i yrfa lenyddol Kate Roberts - cyfnod Arfon a chyfnod Dinbych.
Trafodwyd y cyfnod cyntaf hyd syrffed ond prin fu'r sylw i'r ail er bod y Kate Roberts a ddaeth allan o'i meudwyaeth llenyddol yn 1949 yn Kate Roberts dra wahanol i'r un ddeuddeng mlynedd ynghynt.
Cyfnod o arbrofi Yr oedd bellach yn fodernydd, term a grisielir orau yng ngeiriau Ezra Pound, "Make it New." a yna a wn芒i hi o hyn allan gan arbrofi gyda ffurf a chynnwys ei rhyddiaith.
Arbrofodd gyda ffurf ei rhyddiaith.
"Stori hir fer ar ffurf dyddiadur," yw isdeitl Stryd y Glep- peth cwbl newydd yng Nghymru ar y pryd.
Mae Y Byw sy'n Cysgu yn arbrofi trwy gyfuno naratif draddodiadol trydydd person gyda chofnodion dyddiadur yn y person cyntaf.
Llif ymwybod Arbrofodd hefyd gyda thechneg llif yr ymwybod a ddefnyddiwyd gan y modernydd James Joyce yn Ulysees.
Mae straeon fel Yr Enaid Clwyfus yn ddarnau nodweddiadol o'r dull hwn o sgrifennu yn gwibio rhwng y presennol a'r gorffennol i adlewyrchu tryblith meddwl y prif gymeriad.
Defnyddir y dull yn fwy arbrofol fyth mewn stor茂au fel Yr Atgyfodiad lle mae'r arddull ffurfiol, farddonol yn gwyro at ffurf yr ysgrif tra bo'r modd y rhennir y gwaith fesul diwrnod yn nes at ffurf y dyddiadur eto.
Eto, llif yr ymwybod sydd yma:
"Y Diwrnod ar 么l hynny . . . Fy ngh么t llofft yn crogi ar fach tu cefn i'r drws, ei breichiau a'i hysgwyddau yn disgyn yn llipa. Fy ffurf i fy hun ynddi. Fy menyg ar y bwrdd ymwisgo a ffurf fy nwylo yn sefyll yn syth yn eu bysedd gwag. Petawn i wedi marw, a welai rhywun fy nghorff yn y g么t a'm dwylo yn y menyg fel y gwelais i?"
Y canoloesol Nodwedd fodernaidd arall yw'r dull meta ffuglenol sydd i lawer o'i straeon. Mae'n hoff o droi at lenyddiaeth ganoloesol gyda Bet Jones yn Tywyll heno yn cymharu ei hun 芒 Heledd (Ystafell Cynddylan) - y ddwy yn gwallgofi; Heledd yn crwydro adfeilion llys Cynddylan, a gynrychiola ddadfeiliad ffydd Bet a'r anialwch o wacter y mae ar goll ynddo.
Defnyddia'r un dechneg yn ei straeon byrion gyda Yr Wylan Deg yn enghraifft wych o hynny a'r prif gymeriad, Lisi Ifans, yn dyfynnu cwpled o gywydd Sion Phylip: Yr wylan deg ar lanw d诺r| Loywblu gofl, abl o gyflwr.
Fodd bynnag, mae'r prydferthwch a welodd y bardd yn yr wylan yn troi'n obsesiwn cenfigenllyd ar ran Lisi Ifans wrth i Kate Roberts ddefnyddio canoloesoldeb i drafod problemau'r byd modern.
Disgrifiadau swreal Nodwedd arall a gysylltir 芒'r mudiad modernaidd yw disgrifiadau swreal ac mae ei gwaith yn frith o hynny.
Dyna Elen, prif gymeriad Cathod Mewn Ocsiwn sy'n gweld wyneb y diweddar Mrs. Hughes yn ffurfio ac ailffurfio mewn mat:
"Ar y llawr wrth ei hymyl yr oedd hen garped llipa wedi ei blygu'n fl锚r. Edrychodd ar ei blygion, ac o dipyn i beth fe droes y plygion yn ffurfiau wyneb, yn drwyn, ceg, talcen a chlustiau. Troesant yn wyneb corff marw mewn bedd . . . Y munud nesaf daeth dyn i mewn i'r ystafell yn gwisgo esgidiau trymion. Sathrodd y carped a diflannodd y ffurfiau. Yr oedd wedi sathru wyneb y marw yn ei harch."
Disgrifiad nid anhebyg i rai Franz Kafka, un o'r modernwyr enwocaf:
Brwydr teimladau Ymdrinia Kate Roberts 芒 syniadau modernaidd yn ogystal. Nid cofnodi brwydr dyn yn erbyn tlodi a wna yn ei hail gyfnod ond archwilio'r frwydr rhwng ei deimladau fel ag yn Tegwch y Bore.
Yma, archwilir y modd y rhwygir Ann Owen rhwng ei chariad at ei brawd ymadawedig a'i chariad at Richard gan ddioddef rhyw fath o gymhlethdod Oedipeaidd fel yr adroddwr yn Un Nos Ola Leuad.
Athroniaeth seicolegol Sigmund Freud yw hyn wrth gwrs, athroniaeth sy'n ganolog i lenyddiaeth fodernaidd.
Nodwedd arall fodernaidd yn ei gwaith yw'r modd y cwestiynir sicriaethau'r genhedlaeth gynt. Trafodir dadfeiliad crefydd yn Tywyll Heno a dirywiad yr uned deuluol yn Y Byw Sy'n Cysgu.
Ceir elfennau distopaidd yn ei rhyddiaith. Dyna prif gymeriad Prynu Dol sy'n siarad 芒 chi i gael clywed hen eiriau anghofiedig y Gymraeg. Portread nad yw'n annhebyg i un Islwyn Ffowc Elis o Hen Wraig y Bala.
Yr artist dioddefus Archwilia hefyd thema yr artist dioddefus - thema fodernaidd arall.
Try Ffebi Beca a Lora Ffennig at ddyddiadura am waredigaeth tra bo Bet ei bryd ar gyfansoddi drama.
Dyna Jones wedyn, prif gymeriad Yr Enaid Clwyfus:
"Roedd arna'i eisio gwneud llun o'r byd gwallgo yna, a fi fy hun fel rhyw sbotyn bach yn i ganol o. Dyma fi'n tynnu llun dyn yn ffustio perthi efo ffon, a'r perthi ar d芒n, a'r t芒n yn mynd yn fwy wrth iddo ffustio . . . Wedyn, dyma fi'n tynnu llun babi yng nghroth i fam, hanner y ffordd cyn cael i eni . . ."
Ffy'r cymeriadau hyn i fyd celfyddyd, nid annhebyg i Stephen Dedalus, prif gymeriad A Portrait of the Artist as a Young Man (James Joyce.)
Y mae llawer heb ei ddweud ond mae un peth yn gwbl amlwg. Modernydd yw Kate Roberts yng ngyfnod Dinbych ac, yn fwy na hynny, modernydd sy'n cystadlu'n hawdd 芒 modernwyr mawr y byd.
Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng 成人快手 Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Hanes Kate Roberts
Canolfan Cae'r Gors
Kate Roberts y ffeminist
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|