|
Kate Roberts y ffeminist Adnabod merched yn well
gan Glyn Jones
"Rydw i'n nabod merched yn well."
Dyna'r ateb a roddodd Kate Roberts pan ofynnwyd ei barn am y dynion yn ei gwaith.
Fodd bynnag, nid yw canolbwyntio ar ferched, nac ar y cartref a gorchwylion domestig yn ddigon i wneud awdur yn 'ffeministaidd'.
Eto, o graffu ar y merched yn ei gwaith gellir canfod llais ffeministaidd clir.
Ystyrier yr awdures ei hun. Kate Roberts, nid Kate Williams yw'r enw a roddodd wrth ei holl gyfrolau. Wrth ei henw ei hun y dymunai gael ei hadnabod, nid wrth enw ei g诺r.
Ac mewn llythyr at Saunders Lewis ysgrifennodd:
"Nid wyf fi na Morus [Williams] yn credu mewn priodi, ond credwn mewn 'byw tali'."
Yn ei rhyddiaith Cymharer hyn 芒'i hagwedd at briodas yn ei rhyddiaith. Yn Rhwng Dau Damaid o Gyfleth mae Geini'n gwrthod priodi Dafydd am ei bod yn ofni:
"Y down ni i nabod yn gilydd yn ddigon da i gashau yn gilydd."
Dyna Lora Ffennig wedyn sy'n gwrthod caethiwo'i hunan eilwaith drwy briodi Mr Meurig.
Ochr arall y geiniog yw Sioned Traed Mewn Cyffion sy'n dod dan lach Kate Roberts am briodi er mwyn priodi, tuedd fenywaidd y mae'n fwy na pharod i'w chondemnio.
Ptiodas gyfleus Rhydd Kate s锚l ei bendith ar briodas gyfleus, yn enwedig o safbwynt y ferch, megis priodas Sam ac Alis yn Hen Bobl yn Caru.
Ffeminyddiaeth geidwadol yw ffeminyddiaeth Kate Roberts felly gyda'i cheidwadaeth yn gwthio'i merched i briodas ond ei ffeminyddiaeth yn eu hatal rhag gwneud hynny'n fyrbwyll fodlon.
Mae'r diffyg ymlyniad hwn at fyth rhamantaidd yn null Austen, Bront毛 neu Jane Edwards yn nodwedd amlwg yn ei gwaith fel ag yng ngwaith ffeministiaid enwog fel Virginia Woolf.
Chwalu'r diffiniad traddodiadol Gwelir ei ffeministiaeth yw ei phortread o'r ferch hefyd wrth iddi roi nodweddion cymdeithas batriarchaidd yn eu dwylo hwy.
Yr enghraifft orau yw Ann Owen, Tegwch y Bore, sy'n chwalu'r diffiniad traddodiadol o ferch fel estyniad o'i chymar. Adlewyrchir ei hanniddigrwydd yn y llinellau hyn:
"Methai edrych ymlaen at fywyd efo Richard. Dywedai un hanner ohoni y dylai fynd ymlaen gyda'i gwaith fel athrawes. Dywedai'r hanner arall y dylai briodi."
Nid ar chwarae bach y gall Kate Roberts y llenor a'r wraig fusnes gondemnio Ann i'r gegin. Eto, yn baradocsaidd nid yw'n cwestiynu unwaith hawl dynion i redeg cymdeithas. Yr agosaf y daw at hynny yw cri Bet yn Tywyll Heno:
"Y peisiau sy'n teyrnasu. Gorfoledded y ddaear."
Datganiad sy'n dweud mai merched, nid dynion, na hyd yn oed yr Arglwydd, sy'n rhedeg cymdeithas - ond unwaith eto mae ei cheidwadaeth yn mynnu ei bod yn torri esgyll y ferch.
Nid yw'n gadael i Bet godi'i phac a ffoi, yn wahanol i Henrik Ibsen gyda Nora yn T欧 Dol Nid gwrthryfela yn erbyn cymdeithas a wna Bet ond gwrthryfela i'w derbyn.
Rhydd i bechu Ben arall y sbectrwm ceir merched fel Melinda. Mae Bet yn ymweld 芒'i th欧 fel pe'n grair sanctaidd ac mae'r modd y difera bersawr Melinda ar ei hances yn awgrymu edmygedd sy'n ymylu ar addoliad. Mae Melinda'n rhydd i bechu, am nad yw'n teimlo pechod. Yn yr un modd, ymateb Begw i Winni Ffinni Hadog sydd:
"fel rhyw fath o broffwyd iddi."
Hynny am ei bod yn beiddio byw yn wahanol.
Wrth edrych ar Te yn y Grug gyda'r hyn 芒 elwir yn 'gynocriticism' - sef elfen o feirniadaeth ffeminyddol - gellir dadlau bod Begw a Winni yn ddau ddwbl o'r awdures ei hun.
Y naill yn ymgorfforiad o sensitifrwydd Kate, y llall yn cynrychioli'i hawydd i regi yn wyneb cymdeithas.
Cyfaddefodd Kate Roberts ei hun mai Winni oedd ei hoff gymeriad.
Y dynion yn ei gwaith
Ystyrier wedyn y dynion yn ei gwaith. O'u cymharu 芒'r merched crwn, cymhleth, ystrydebol yw bron bob un ohonynt yn cynrychioli y gwryw nodweddiadol, di-liw, dideimlad, twyllodrus.
Dyna Iolo odinebus Y Byw Sy'n Cysgu, Twm Ffinni Hadog, neu lembo fel y'i gelwir gan ei ferch, a Gruff Tywyll Heno sy'n gwneud i lwyd edrych yn llachar.
Dyna Pryfocio wedyn. Mae'n amlwg bod Catrin yn dioddef trais seicolegol, ond ceir awgrym bod Meri Ifans yn dioddef tan law ei g诺r a bod 'Robin Huws drws nesa' yn un parod ei ddyrnau.
Nid yn eithriad Dengys Kate Roberts nad yw gwraig wedi'i chaethiwo dan fawd ei g诺r yn eithriad o bell ffordd. Ymhellach, mae'r geiriau; "Hi oedd yr unig ferthyr o wraig yn yr ardal." yn feirniadaeth hallt ar yr elfen hunanaberthol sy'n nodweddu Catrin, a llawer o ferched eraill ei rhyddiaith.
Enghraifft debyg yw Chwiorydd lle esgeulusir Meri Ifans gan ei g诺r ac yn hyn o beth, nid oes gwahaniaeth mawr rhwng llawer o weithiau Kate Roberts a champweithiau ffeminyddol Ewrop.
Fel Kate Roberts mae The Second Sex, Simone de Beauvoir a Sexual Politics Kate Millet yn archwilio i'r ddelwedd ddiwylliannol o'r ferch mewn cymdeithas, ac i'r ffyrdd y mae dynion yn camddefnyddio grym i gadw'r ferch mewn safle israddol.
Cyhoeddir yr erthygl hon yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng 成人快手 Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Kate Roberts y Modernydd - hefyd gan Glyn Jones.
Hanes Kate Roberts
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|