³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2008

Melin y Cambrian, Drefach Felindre.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:22, Dydd Iau, 27 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Os ewch chi bedair milltir i'r dwyrain o Gastell Newydd Emlyn, a phymtheg milltir i'r Gorllewin o Gaerfyrddin, fe ddewch i ardal a oedd ar un adeg yn ganolfan diwydiant gwlan Dyffryn Teifi, yn cynhyrchu crysau a blancedi, sannau a sioliau i gwsmeriad ym mhedwar ban byd.

Pan gerddais i drwy ddrysau melin y Cambrian yn Nhrefach Felindre, roedd y byrddau a'r silffoedd yn gwegian dan bwysau cynnyrch presennol y felin. Agrowyd y felin ar ei newydd wedd fel amgueddfa yn 2004 er mwyn adrodd yr hanes wrth yr oesau a ddel am y gweithgarwch a fu.

Fe dreuliais i fore difyr iawn yng nghwmni Joanna,Heledd,Kevin,Keith a Non yn clywed am hanes y Felin, ac mae nhw yno wrth law i ateb cwestiynnau ymwelwyr a phlant ysgol chwilfrydig... "Sut mae nhw'n cael y gwlan oddi ar gefn y ddafad?"..."Sut 'da chi'n troi y gwlan yn bâr o sannau?"

Keith Rees ydi'r dyn i ateb y cwestiynnau hynny gan ei fod o wedi bod yn gysylltiedig a'r diwydiant ers hanner can mlynedd ac erbyn hyn yn dysgu erailli drin y peiriannau.

Å´yn bach Ysgol Gynradd Llandudoch oedd yn crwydro o gwmpas y lle dydd Mercher, ac yn cael eu bugeilio'n ofalus gan eu pennaeth, Mannon Roberts. Ar ol eu corlannu nhw'n llwyddianus, fe ganodd y plant garol am Fair a Bethlehem, ac roedd hi'n bleser clywed y lleisiau ifanc yn atseinio o amgylch hen waliau Melin y Cambrian.

Brynaman...uchaf!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:45, Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na syrjyri doctor yno, llyfrgell, 'stafelloedd ar gyfer cynnal cynhadleddau a dosbarthiadau nos, digon o le i ddawnsio ac yn bwysicach na dim, lle bwyta sy'n cynnig y pryd blasusaf o ffagots, pys a grefi nionod ar ddiwrnod oer o Dachwedd. Gyda llaw, os oes gennych chi rysait am grefi nionod da - cysylltwch ar fyrder os hwelwch yn dda!

Y lleoliad? Canolfan y Mynydd Du, Brynaman, lle 'roeddan nhw'n cynnal arddangosfa o briodasau yr ardal dros y blynyddoedd.


genodyganolfan.jpeg

Adele a Lynsey - staff y ganolfan.


Roedd y casgliad yn cynnwys lluniau o barau priod a'u teuluoedd, llythyrau, gwahoddiadau, rhestrau o anrhegion, hyd yn oed gwisg briodas a chacen. Ac yn sefyll o flaen y wledd briodasol yma roedd Dai a Caryl Evans sydd yn briod ers 1956 a Keith a Sarah Hopkin a briodwyd yng nghapel Gibea ym 1975, lle fffilmiwyd cyfres deledu Y Briodas Fawr yn 2004.


arddangosfapridas.jpeg


Ar ol sgwrsio am eu profiadau carwriaethol ar raglen Nia, roedd na gyfle i mi wneud ychydig o ddawnsio llinell efo'r merched sy'n cyfarfod yn y ganolfan yn wythnosol. Ffordd dda iawn o losgi holl galoriau y ffagots, a'r tatws a'r grefi.


dawnsiollinell.jpeg

hywelyndawnsio.jpeg


Cyn gadael y Ganolfan, fe wnes i ddigwydd taro ar Margaret Jones, Eifiona Thomas a'i gwr Austin sydd wedi treulio ei oes o dan ddaear. Nid dilyn "y du faen dan lwyd fynydd" yr oedd o, ond yn hytrach, ymweld a phyllau glo led led y byd lle 'roedd damweiniau wedi digwydd yn dilyn nwy yn dianc. Ei swydd ef oedd gwneud y lle yn ddiogel er mwyn i'r glowyr fedru dychwelyd i'w gwaith. Gobeithio y cewch chi gyfle i glywed Austin Thomas yn sgwrsio am ei fywyd cyffrous efo Beti George ar Radio Cymru cyn bo hir.

Cofiwch os oes na unrhyw stori ddiddorol yn eich ardal chi, neu berson sydd yn haeddu mymryn o sylw, cysylltwch a mi ar hywel@bbc.co.uk

Dyddiadur diwrnod Plant mewn Angen - O Gaerfyrddin i 'Stiniog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:38, Dydd Llun, 17 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

5.45am: Caerfyrddin - Y larwm yn fy nghlust yn fy ngorfodi i godi a mynd draw i gartre'r Parchedig Beti Wyn. Mae cyflwynwyr Radio Cymru yn ail-ymweld a'u gorffennol heddiw i roi tro ar wneud eu job gynta' un. Yn ddeuddeg oed, roeddwn i'n cael pum swllt yr wythnos am fynd ar 'rownd bapur' dros siop Guests Llangefni. Dyna pam yr oeddwn i'n sefyll ar stepan drws ty Beti am hanner awr wedi chwech efo copi o'r Camarthen Journal yn fy llaw, oedd yn son gyda llaw am lwyddiant Beti yn enill cadair eisteddfodol arall.


hywelabeti.jpeg


8.30am: Cefneithin - Ardal Carwyn James, Barry John, Ronnie (partner Ryan) a Dwayne Peel, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa. Roedd nifer fawr o'r disgyblion wedi gwisgo gwisg ffansi er mwyn hel arian. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi geisio cynnal sgwrs gweddol gall efo bachgen ifanc penfelyn wedi ei wisgo fel mefusen. Strawberry blond go iawn! Cyn gadael, roeddwn i wedi ysgwyd llaw efo Batman, banana a bachgen wedi ei wisgo fel 'hot dog' - ond heb y saws coch.


ysgolpma.jpeg


11.15am: Llanybydder - Galw heibio criw o famau ifanc a'u plant yng nghanolfan Ty'r Teulu yn Llanybydder, sydd wedi derbyn arian o gronfa Plant mewn Angen er mwyn gwella'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r ganolfan nid yn unig yn cynnig 'stafell i'r plant chwarae a darllen, a gwneud stomp efo paent, ond hefyd yn fan cyfarfod i'r mamau gael rhannu syniadau a datrys problemau.

3.45pm: Blaenau Ffestiniog - Diwedd y daith:carchar 'Stiniog. Ond mae drysau'r carchar yma wedi cael eu hagor gan y Gwallgofiaid - criw brwdfrydig sydd wedi - gyda chymorth arian o gronfa'r Plant mewn Angen - addasu hen Orsaf Heddlu a'i throi yn Ganolfan gerddorol i dalentau ifanc y Blaenau. Mae'r hen swyddfeydd bellach yn 'stafelloedd ymarfer, a'r hen lys yn neuadd i ddangos ffilmiau a chynnal cyngherddau. Ac yn ol Sion Jones sydd yn gweithio efo'r criw, mae 'na fwy o gynlluniau cyffrous ar y gweill ..."Dim ond megis dechra' 'da ni..." medda fo. Dwi'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r Blaenau i weld y datblygiadau newydd.

Diolch i bawb am eu croeso i ni ar ddiwrnod Plant mewn Angen. Eleni fe ddaru chi dorri pob record drwy gyfrannu miliwn o bunnau i Gronfa'r Plant a hynny er gwaetha'r wasgfa economaidd. Ffantastig!

Destiny's child ar lan y llyn.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:49, Dydd Iau, 13 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Coed y Rhygen ydi enw fferm Dewi, Sian a'r teulu, ac mae'r olygfa ar draws llyn Trawsfynydd, efo'r rhosdir yn gwisgo ei lliwiau Hydrefol yn anhygoel o brydferth.

Mae'r teulu wedi cael llwyddiant anhygoel yn y Sioe Frenhinol dros y blynyddoedd a phan gyrhaeddais i'r fferm, roedd Eleri y ferch sy'n filfeddyg yn Nolgellau, yn mynd a Destiny, y cobyn du am dro.

destinyteulu.jpg

Hogyn dinas ydw i mae'n rhaid i mi gyfaddef, ond wrth anelu trwyn y fan yn ôl am Gaerdydd, allwn i ddim llai na theimlo ychydig yn eiddigeddus o deulu Coed y Rhygen, yn cael byw mewn lle mor braf.

Tros fawnog Trawsfynydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:42, Dydd Iau, 13 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Fore Mawrth, Tachwedd yr unfed ar ddeg, am unarddeg, gyda dau funud o dawelwch 'roeddan ni'n cofio am y rhai gollodd ei bywyd yn y ddau ryfel byd ac mewn rhyfeloedd ar ol hynny.

2008-11-13-ysgwrn1.jpg


Yn rhyfedd iawn, roeddwn i'n cyrraedd fferm Yr Ysgwrn yn ystod y dau funud o dawelwch. Cartref Hedd Wyn oedd Yr Ysgwrn, a'i nai Gerald Williams sydd wedi bod yn gofalu am y ty ers blynyddoedd.

geraldachywel.jpeg

Roedd Nain Gerald yn fam i Hedd Wyn, ac yn yr Ysgwrn y cafodd o a'i frawd eu magu. Yn y parlwr mae holl gadeiriau eisteddfodol Hedd Wyn, gan gynnwys yr enwog gadair ddu enillodd o yn Birkenhead ym 1917.

ygadairddu.jpeg


Yn ol Alan Llwyd..."Pan gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod mai Fleur-de-lis oedd ffugenw'r bardd buddugol, ni safodd neb ar ei draed. Roedd y bardd buddugol wedi cwympo chwe' wythnos ynghynt. Roedd y Rhyfel a'r Brifwyl, llwyfan a chyflafan yn un."

"Gadair unig ei drig draw - ei
Dwy fraich, fel pe'n difrif wrandaw.
Heddiw, estyn yn ddistaw
Mewn hedd hir, am un ni ddaw."

R.Williams Parry

Clwb Karate 'Stiniog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:54, Dydd Iau, 13 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Ar wahoddiad Eric ac Idris o glwb Karate 'Stiniog, dyma barcio y fan, yn y fan a'r lle tu allan i'r Clwb nos 1UN. Tu mewn roedd 'na lond y lle o bobol ifanc brwdfrydig yn ymosod yn gyfeillgar ar eu gilydd, yn waldio'r naill a'r llall yn ddisgybliedig tra'r oedd Eric ac Idris yn cadw golwg arnyn nhw.

Fe ges i air efo un merch ifanc, Helen, sydd yn swyddog prosiectau yn yr ardal, ac sydd wedi penderfynu mynychu'r dosbarth er mwyn gallu amddiffyn ei hun petai rhaid. Chwe mis yn ddiweddarach mae hi'n teimlo'n llawer mwy hyderus, ac ar noson dywyll, petae Helen wrth fy ochor i, mi faswn i'n barod i wynebu unrhyw un.

Gyda llaw, os 'da chi'n gofalu am glwb o unrhyw fath ac am gael cyhoeddusrwydd cenedlaethol i'r hyn sy'n digwydd acw, y cyfeiriad e bost ydi hywel@bbc.co.uk

Pentreuchaf yn cyrraedd y cant.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:33, Dydd Iau, 6 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)


Tydi Gwyndaf Jones, pennaeth Ysgol Pentreuchaf, Pwllheli, ddim yn mynd i'r ysgol mewn hen wasgod o'r oes o'r blaen a'i drwsus yn ei sanna' fel arfer. Ond, gan fod yr ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn gant oed, roedd y pennaeth, yr athrawon a'r plant wedi eu gwisgo yng ngwisg y cyfnod.

Fe alwodd John Dilwyn a Neli Williams heibio hefyd. Mae Neli'n cael ei adnabod fel Neli'r Hendre gan bawb sy'n ei chofio hi'n adrodd ac yn ennill gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn, a roedd y plant bach wrth eu bodd yn clywed Neli'n hel atgofion am ei dyddiau cynnar hi yn yr ysgol. Archifydd ydi John Dilwyn wrth ei waith bob dydd ac mae o wedi bod yn gyfrifol am gasglu straeon a hen luniau o'r ysgol ers agor ei drysau yn 1908.

Cyn gadael, fe ges i wahoddiad i fwynhau cinio yn 'stafell yr athrawon - reis a chyri cyw iar. Ond dim semolina efo lwmp o jam yn ei ganol fel oedd ar fwrdd cinio Ysgol British Llangefni ers talwm.

Canmil ddiolch i Ysgol Pentreuchaf am y croeso. Gyda llaw, mae'n llongyfarchiadau yr un mor wresog i Ysgol Chwilog nepell cae chwarae o Bentreuchaf sydd hefyd yn gant oed.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.