³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyddiadur diwrnod Plant mewn Angen - O Gaerfyrddin i 'Stiniog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:38, Dydd Llun, 17 Tachwedd 2008

5.45am: Caerfyrddin - Y larwm yn fy nghlust yn fy ngorfodi i godi a mynd draw i gartre'r Parchedig Beti Wyn. Mae cyflwynwyr Radio Cymru yn ail-ymweld a'u gorffennol heddiw i roi tro ar wneud eu job gynta' un. Yn ddeuddeg oed, roeddwn i'n cael pum swllt yr wythnos am fynd ar 'rownd bapur' dros siop Guests Llangefni. Dyna pam yr oeddwn i'n sefyll ar stepan drws ty Beti am hanner awr wedi chwech efo copi o'r Camarthen Journal yn fy llaw, oedd yn son gyda llaw am lwyddiant Beti yn enill cadair eisteddfodol arall.


hywelabeti.jpeg


8.30am: Cefneithin - Ardal Carwyn James, Barry John, Ronnie (partner Ryan) a Dwayne Peel, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa. Roedd nifer fawr o'r disgyblion wedi gwisgo gwisg ffansi er mwyn hel arian. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi geisio cynnal sgwrs gweddol gall efo bachgen ifanc penfelyn wedi ei wisgo fel mefusen. Strawberry blond go iawn! Cyn gadael, roeddwn i wedi ysgwyd llaw efo Batman, banana a bachgen wedi ei wisgo fel 'hot dog' - ond heb y saws coch.


ysgolpma.jpeg


11.15am: Llanybydder - Galw heibio criw o famau ifanc a'u plant yng nghanolfan Ty'r Teulu yn Llanybydder, sydd wedi derbyn arian o gronfa Plant mewn Angen er mwyn gwella'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r ganolfan nid yn unig yn cynnig 'stafell i'r plant chwarae a darllen, a gwneud stomp efo paent, ond hefyd yn fan cyfarfod i'r mamau gael rhannu syniadau a datrys problemau.

3.45pm: Blaenau Ffestiniog - Diwedd y daith:carchar 'Stiniog. Ond mae drysau'r carchar yma wedi cael eu hagor gan y Gwallgofiaid - criw brwdfrydig sydd wedi - gyda chymorth arian o gronfa'r Plant mewn Angen - addasu hen Orsaf Heddlu a'i throi yn Ganolfan gerddorol i dalentau ifanc y Blaenau. Mae'r hen swyddfeydd bellach yn 'stafelloedd ymarfer, a'r hen lys yn neuadd i ddangos ffilmiau a chynnal cyngherddau. Ac yn ol Sion Jones sydd yn gweithio efo'r criw, mae 'na fwy o gynlluniau cyffrous ar y gweill ..."Dim ond megis dechra' 'da ni..." medda fo. Dwi'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r Blaenau i weld y datblygiadau newydd.

Diolch i bawb am eu croeso i ni ar ddiwrnod Plant mewn Angen. Eleni fe ddaru chi dorri pob record drwy gyfrannu miliwn o bunnau i Gronfa'r Plant a hynny er gwaetha'r wasgfa economaidd. Ffantastig!

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ³ÉÈË¿ìÊÖ iD

    Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

    ³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.