³ÉÈË¿ìÊÖ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Maen nhw'n dwedyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 08:02, Dydd Gwener, 23 Gorffennaf 2010

Gavin, Charlotte, Teledu Cymraeg, Tom Jones, llwyddiant dyn yn ei ardd ac ymateb i'r lladd yn Afghanistan - golwg ar yr wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr . . .

  • Pe byddwn i'n cael fy ethol i'r Cynulliad fe fyddwn i'n cicio tinau - Neil McEvoy, cyn aelod o'r Blaid Lafur sy'n gobeithio cael ei ddewis yn ymgeisydd i'r Cynulliad gan Blaid Cymru.
  • Be fyddai Cymru heb y gwasanaeth darlledu cyhoeddus cyfrwng Cymraeg? Nid ffigyrau gwylio ydy popeth - John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C yn .
  • Pe bai'r sianel yn fusnes preifat yn colli cwsmeriaid ar y fath raddfa byddai'r cyfranddalwyr yn gofyn am newid yn y drefn ac yn mynnu diswyddiadau - Llythyr gan Anna Fon, Nasareth, Gwynedd, yn 'Golwg'.
  • Roeddwn i wedi meddwl y byddai Charlotte a minnau gyda'n gilydd am byth. Yr oeddem yn caru'n gilydd ond doeddem ni ddim yn dda i'n gilydd - Gavin Henson wrth iddo ef a Charlotte Church wahanu.
  • Dere mlaen Gavin mae dy wlad dy angen i ennill Cwpan y Byd a dod yn chwedl chwaraeon - Llythyrwr yn y 'Western Mail', R Terry James o Brentwood, Essex.
  • Rwy'n gobeithio y bydd yn parhau am byth. Fe hoffwn i fyw am byth. Fe hoffwn i ganu am byth achos mae'n wych. Rydw i'n cael andros o hwyl - Syr Tom Jones.
  • Cyfnod byr iawn yn fy ngyrfa oedd Reading. Rwyf wedi dysgu o'r profiad ac fe fydd yn fy ngwneud yn well rheolwr yn Abertawe - Brendan Rogers, rheolwr newydd clwb pêl-droed Abertawe.
  • Bachgen Cymraeg ydw i ac fe hoffwn i weithio yng Nghymru - Bryn Williams, prig gogydd Odette's, Llundain.
  • Os bydd pethau'n parhau fel hyn fydd yna ddim o Feddgelert ar ôl - Brian Wheatley o Feddgelert yn cwyno am y difrod sy'n cael ei achosi gan loriau mawrion ar ffyrdd culion y pentref.
  • Pan gytunodd o i godi TAW ai bod yn bragmatydd chwyldroadol oedd o ynteu yn chwyldroadwr pragmataidd - Elfyn Llwyd AS yn holi Nick Clegg, y dirprwy Brifweinidog, yn y Senedd yn Llundain gan adleisio sylw a wnaeth Mr Clegg yn ddiweddar ei fod yn chwyldroadwr ac yn bragmatig hefyd.
  • Ro'n i'n arfar teimlo, mod i'n cerddad yn fy mlaen ond fod na fynydd uchel o 'mlaen i o hyd, a'i fod yn symud efo fi fel ro'n i'n cerddad, a byth yn mynd o'r ffordd. Erbyn hyn dwi'n teimlo mod i wedi dringo i dop yr hen fynydd 'na, ac yn medru sbïo drosodd i'r ochr arall. A wyddoch chi be? Mae'r olygfa'r ochr arall yn fendigedig! - Russell Jones y garddwr teledu yn ei lyfr 'Gwyrdd fy Myd'.
  • Yng nghanol tref Caerfyrddin mae cerflun o'r Cadfridog William Nott, milwr lleol a fu'n brwydro yn Afgghanistan ym 1842. Dros ganrif a hanner yn ddiweddarach mae milwr o Gaerfyrddin, fel pob rhan arall o Brydain, unwaith eto'n ymladd ac yn marw yn y wlad honno. Nid yw gwersi hanes wedi dysgu dim i ni - y Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, yn ymateb yn ystod cynhadledd yr Undeb yng Nghaerfyrddin i farwolaeth y milwr ifanc Samuel Robinson o Fronwydd, Caerfyrddin.
  • Hon [Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros] yw'r nofel fydd yn aros ymhen blynyddoedd ac yn Manon Ros rydyn ni wedi cael awdur sy ben ac ysgwyddau'n uwch na nifer o'r rhai sy'n dwyn sylw atyn nhw'u hunain yn fwy llwyddiannus na hithau - Heini Gruffudd yn gofidio na chafodd y nofel ei haeddiant yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.


³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.