Adolygiad John Gruffudd Jones o Fel Aderyn gan Manon Steffan Rhys. Y Lolfa. 拢7.95. Tud 206.
Ym myd y ddrama y daeth Manon Steffan Rhys i'n sylw gyntaf wrth iddi ennill y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol - Eryri ac Abertawe - ac mae dylanwad byd y ddrama yn amlwg iawn yn y nofel dda yma.
Fe amlygir hynny yn y ddeialog fywiog sy'n britho'r gwaith drwyddo draw ac mae'n hawdd dod i adnabod sawl cymeriad nid yn unig yn y disgrifiadau sydd yma ond hefyd ar sail beth sydd ganddynt i'w ddweud.
Naturioldeb yn gryfder
Yn wir, cryfder y cyfanwaith i mi yw'r naturioldeb sy'n pefrio yn y ddeialog yn enwedig felly pan gyflwynir tyndra rhwng dwy.
Daw dylanwad y ddrama i'r amlwg hefyd wrth i'r awdures gyflwyno'r stori mewn penodau eitha' byr ar brydiau fel cameos bychain ynghanol y stori, ac fe geir chwe phennod ar hugain o fewn 200 tudalen.
Yn wir fe all ambell bennod sefyll fel stori fer unigol.
Mae'r nofel yn cynnwys stori chwe cenhedlaeth o ferched o fewn cyfnod sy'n ymestyn o 1882 hyd at 2009, a pherthynas merched 芒'i gilydd ac 芒'r dynion yn eu bywydau yw defnydd crai y cyfanwaith.
Mae'r ddelwedd o 'aderyn caeth yn crefu ac yn ymestyn at ryddid' yn amlwg yma hefyd ac efallai i hynny gael ei ddefnyddio'n ormodol ar brydiau yn enwedig wrth i'r awdures geisio dangos y gwahaniaeth rhwng y cymeriadau a'u hymateb i'r amgylchiadau.
Tybed a oes yna duedd yng ngwaith awduresau i ddefnyddio'r ddelwedd yma yn aml iawn?
Llawn agosatrwydd
Ond mae hon yn nofel sy'n llawn agosatrwydd ac adnabyddiaeth o fywyd teuluol ac mae'n hawdd iawn uniaethu 芒 sawl cymeriad yma, yn enwedig felly Nanw wrth iddi brofi gwefr cariad ac yna colli'r cariad hwnnw yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r ail bennod, sy'n disgrifio carwriaeth Nanw a Wil yn 1939, yn dangos dawn yr awdures ar ei gorau ac yn sicr yn cadw naws y cyfnod hwnnw nid yn unig yn y disgrifio sydd yma ond mae'r ddeialog yn llawn naturioldeb wrth i'r gymysgedd o ofn a hyder ddod i'r wyneb.
Yn wir, mae dilyn hynt a helynt Nanw yn stori fer-hir ar ei gorau.
Fe ddaw sawl cyffyrddiad sy'n llawn hiwmor tyner i'r wyneb hefyd yma ac acw ac fe fydd y darllenydd yn sicr yn gallu gweld tebygrwydd rhwng un o'r cymeriadau ac aelod o'i deulu ei hun
Y naturioldeb a'r adnabod yna sy'n rhoi gwefr a gw锚n i'r darllen.
Yn y siom, yn y cyfrinachau ac yn y sgwrsio mae yma nofel apelgar iawn, yn enwedig felly i ferched yn fy marn i.
Ga'i feiddio dweud bod nofel dda fel hon yn haeddu clawr llawer mwy deniadol.