Boddi Pentref
Description
Ffilm o bentref wedi鈥檌 foddi. Adeiladwyd y model mewn stiwdio teledu er mwyn cofio boddi pentref Capel Celyn yn ardal y Bala ym 1965. Boddwyd y pentref hwn a鈥檙 cwm o鈥檌 gwmpas gan Gyngor Dinas Lerpwl er mwyn adeiladu cronfa dd诺r Tryweryn (er gwaethaf protestiadau mawr yng Nghymru ar y pryd). Cyn boddi Capel Celyn, chwalwyd yr adeiladau i鈥檙 llawr a symudwyd y fynwent i ardal arall, felly mae鈥檙 ffilm yn gamarweiniol i raddau. Mae wedi鈥檌 chynnwys yma am ei bod yn codi ymateb emosiynol gan y gwyliwr, sy鈥檔 adlewyrchu teimladau cyn-bentrefwyr Capel Celyn.
Classroom Ideas
Gellir defnyddio鈥檙 clip hwn i atgyfnerthu gwaith ar Gantre鈥檙 Gwaelod, boddi pentref Capel Celyn neu foddi unrhyw ardal am ba reswm bynnag. Gall arwain at ymateb emosiynol a theimladol gan y disgyblion ar lafar neu yn ysgrifenedig. Gall hefyd sbarduno gwaith creadigol, cyflwyno gwybodaeth neu gyflwyno barn a safbwynt. Gellid gwylio鈥檙 clip i annog gwaith dramatig a chael y disgyblion i sgriptio ac actio cyfres o olygfeydd yn seiliedig ar gynlluniau i foddi eu hardal hwy. Byddai鈥檔 bosib ei ddefnyddio hefyd fel sbardun i greu darn o farddoniaeth gan ddefnyddio鈥檙 delweddau gweledol fel arf i greu cymariaethau, trosiadau a phersonoliadau.
Ysgrifennu
Now playing video 4 of 19
- 1:41
- 1:08
- Now playing1:04
- Up next1:53
- 1:18
- 2:21
- 9 of 19
1:00- 11 of 19
1:50- 17 of 19
2:31- 2:31