成人快手

Now playing video 10 of 19

Agor Adeilad Newydd y Cynulliad

Description

Adroddiad newyddion ar ddiwrnod agoriad swyddogol adeilad newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd - y Senedd. Clywir llais y Frenhines yn dweud mai rhywbeth i Gymru gyfan yw鈥檙 dathlu. Cyfweliadau gyda gwahanol aelodau cynulliad y pryd yn rhoi eu hymatebion i鈥檙 adeilad eu hunan yn ogystal 芒鈥檙 digwyddiad hanesyddol yr agoriad. Mae AC Ceidwadol Glyn Davies yn gwrthod mynegi barn ar gost yr adeilad.

Classroom Ideas

Ar 么l gwylio鈥檙 clip hwn gellir cymell y disgyblion i wneud gwaith ymchwil (yn unigol, fel p芒r neu gr诺p) ar adeiladau eiconaidd ein prifddinas a鈥檌 gyflwyno naill ai ar lafar (fel cyflwyniad neu chwarae r么l) neu yn ysgrifenedig (ar ffurf llyfryn gwybodaeth neu bamffled neu boster). Mae gwaith iaith yn codi鈥檔 naturiol wrth drafod meini prawf llwyddiant y dasg e.e. ffurf, cynulleidfa, cywair iaith, geirfa ac ymadroddion. Gellir annog y goreuon i greu araith i鈥檞 thraddodi yn siambr y Senedd. Ceir cyfle eto i drafod ffurf yr araith, cywair iaith a chynulleidfa darged.