Beth oedd mudiad y Siartwyr?
Ar ddiwedd y 1830au, dim ond tua un ym mhob pum dyn oedd 芒鈥檙 hawl i bleidleisio yng Nghymru a Lloegr. O鈥檙 rhain, roedd y rhan fwyaf yn ddynion cyfoethog neu ddosbarth canol oedd yn berchen ar dir.
Roedd y Siartwyr yn gr诺p o bobl a oedd yn teimlo鈥檔 gryf nad oedd hyn yn deg i鈥檙 82 y cant arall o ddynion. Aethon nhw ati i geisio newid y drefn wleidyddol.
Nod y Siartwyr oedd ennill hawliau a dylanwad gwleidyddol i鈥檙 dosbarthiadau gweithiol.
Fideo - Mudiad y Siartwyr
Siarter y Bobl 1838
Daeth enw鈥檙 鈥楽iartwyr鈥 o Siarter y Bobl 1838. Dogfen oedd hon yn rhestru chwe phwynt allweddol yr oedd y Siartwyr yn credu oedd yn angenrheidiol er mwyn cyflwyno system etholiadolSystem sy鈥檔 penderfynu sut mae etholiadau a refferenda yn cael eu cynnal a鈥檜 cyfri. deg ym Mhrydain.
- Rhoi鈥檙 bleidlais i bob dyn 21 oed a h欧n.
- Sicrhau bod maint etholaethau yn gyfartal er mwyn helpu i sicrhau bod gwerth pleidleisiau ar draws ardaloedd yn deg.
- Rhoi cyflog i Aelodau Seneddol fel bod gweithwyr, ac nid dim ond tirfeddianwyr a phobl cyfoethog, hefyd yn gallu sefyll mewn etholiad.
- Sicrhau bod dim cymwysterau eiddo ar gyfer Aelodau Seneddol fel y gallai etholwyr ethol dyn o'u dewis, a all fod yn ddyn cyfoethog neu鈥檔 ddyn tlawd.
- Cynnal pleidlais gudd. Ar y pryd, roedd pleidleisio'n weithred gyhoeddus ac roedd llyfrau pleidleisio yn cael eu hargraffu a oedd yn cofnodi pleidlais pobl. Roedd hyn yn atal rhai rhag pleidleisio fel roedden nhw鈥檔 dymuno. Collodd rhai eu cartrefi am bleidleisio yn erbyn eu landlordiaid.
- Cynnal etholiadau seneddol blynyddol. Ar y pryd, dim ond unwaith bob saith mlynedd roedd angen cynnal etholiad cyffredinol.
Gweithredoedd y Siartwyr
Roedd y Siartwyr yn bennaf yn fudiad a oedd yn ceisio cyflawni eu nodau trwy gyflwyno deisebCais ysgrifenedig ffurfiol at awdurdod yn gofyn am gamau gweithredu ar fater penodol. torfol i鈥檙 Senedd.
Ym mis Mehefin 1839, cafodd deiseb 芒 1.3 miliwn o lofnodion ei chyflwyno i鈥檙 T欧 Cyffredin, ond gwrthododd yr Aelodau Seneddol i gwrdd 芒鈥檙 deisebwyr. Achosodd hyn aflonyddwch a gafodd ei atal yn gyflym gan yr awdurdodau.
Cafodd ail ddeiseb ei chyflwyno ym mis Mai 1842, wedi鈥檌 harwyddo gan dros dair miliwn o bobl, ond unwaith eto fe鈥檌 gwrthodwyd. Arweiniodd hyn at fwy o aflonyddwch ac arestiadau.
Roedd rhai yn credu y byddai angen defnyddio arfau er mwyn cyflawni nodau鈥檙 mudiad.
Siartiaeth yng Nghymru
Dechreuodd Siartiaeth yng Nghymru yng Nghaerfyrddin dan ddylanwad Hugh Williams, cyfreithiwr a diwygiwr radicalSyniad gwleidyddol eithafol neu鈥檔 wahanol i鈥檙 arferol.. Roedd David Rees yn Llanelli, Morgan Williams ym Merthyr a John Frost yn Sir Fynwy hefyd chwarae rhan amlwg.
Roedd y gefnogaeth fwyaf brwd i鈥檙 mudiad yn ardaloedd diwydiannol Cymru.
Er bod y Chwyldro Diwydiannol wedi dod 芒 chyfleoedd gwaith i bobl mewn ardaloedd fel Merthyr, gwnaeth hefyd arwain at broblemau, gan gynnwys:
- amodau byw afiach
- gorboblogiPan mae gormod o bobl yn byw mewn ardal ac mae diffyg lle.
- epidemigau fel colera o ganlyniad i ddiffyg d诺r gl芒n
- amodau gwaith peryglus
Heb bleidlais, ni allai鈥檙 gweithwyr fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau a datrys y problemau cymdeithasol eraill oedd yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.
Gwrthryfel Casnewydd
Un o weithredoedd mwyaf enwog y Siartwyr oedd Gwrthryfel Casnewydd. Dyma oedd y gwrthryfel arfog mawr olaf yng Nghymru, lle cafodd grym corfforol a difrifol ei ddefnyddio fwyaf yn hanes musiad y Siartwyr.
Ar 4 Tachwedd 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o rhwng 3,000 a 5,000 o ddynion yn 么l amcangyfrifon, i Gasnewydd er mwyn ceisio rhyddhau Siartwyr a oedd wedi eu carcharu yng Ngwesty鈥檙 Westgate yn y dref.
Daeth dilynwyr Frost o鈥檙 Coed Duon, dilynwyr Williams o Lynebwy a chriw Jones o Bontyp诺l. Erbyn i鈥檙 dynion yma gwrdd yng Nghasnewydd ac uno, mae rhai yn dweud bod 10,000 o gefnogwyr ganddyn nhw i gyd.
Gorymdeithiodd y Siartwyr i lawr Stow Hill yng nghanol y dref tuag at westy鈥檙 Westgate, cyn galw ar y fyddin i ryddhau鈥檙 dynion a oedd wedi eu carcharu.
Arweiniodd hyn at frwydr ffyrnig a gwaedlyd gyda鈥檙 ddwy ochr yn saethu at ei gilydd. Llwyddodd y milwyr i amddiffyn y gwesty, er gwaetha鈥檙 holl bobl a oedd yn eu herbyn, ac ar 么l hanner awr o ymladd, roedd hyd at 22 o鈥檙 Siartwyr wedi鈥檜 lladd a tua 50 wedi eu hanafu.
Yn dilyn hyn, fe arestiwyd tua 200 o鈥檙 Siartwyr.
Cafodd yr arweinwyr, John Frost, Zephaniah Williams a Williams Jones eu ffeindio鈥檔 euog o bradwriaethBradychu鈥檙 wlad y mae鈥檙 person yn byw ynddi, ee drwy ddechrau rhyfel yn erbyn y llywodraeth.. Fe gawson nhw eu dedfrydu i gael eu crogi, eu diberfeddu a鈥檜 chwarteri.
Y tri arweinydd oedd y bobl olaf i gael eu dedfrydu i鈥檙 gosb hon ym Mhrydain. Ond, ar 么l i bobl eraill wrthwynebu鈥檙 gosb, cawson nhw eu alltudioDiarddel rhywun o wlad oherwydd statws anghyfreithlon neu ar 么l cyflawni trosedd. i Awstralia am oes yn lle.
Ar 么l y terfysg, parhaodd mudiad y Siartwyr yng Nghasnewydd a鈥檙 cyffiniau, ond ni fu erioed mor gryf a bygythiol eto.
Pa mor llwyddiannus oedd mudiad y Siartwyr?
Ar 么l 1848, dirywiodd Siartiaeth fel mudiad. Parhaodd rhai ardaloedd i gefnogi Siartiaeth yn gryf, ond ni wnaeth llawer o bobl fynd i鈥檞 cyfarfod cenedlaethol olaf yn 1858.
Serch hyn, parhaodd effaith y mudiad am flynyddoedd i ddod.
Erbyn y 1850au, roedd Aelodau Seneddol wedi derbyn bod rhaid newid y system wleidyddol, ac fe gafodd deddfau diwygioNewid system i fod yn well. eu pasio yn 1867 a 1884.
Er na chafodd unrhyw un o鈥檙 chwe phwynt yn Siarter y Bobl eu cyflawni yn ystod cyfnod y mudiad, erbyn hyn mae pump o鈥檙 chwech n么d wedi eu cyflawni (heblaw am etholiadau seneddol blynyddol).
A oedd Siartiaeth yn cynnwys menywod?
Er bod nifer o Siartwyr blaenllaw yn credu mewn pleidleisiau i fenywod, nid oedd erioed yn rhan o agenda鈥檙 Siartwyr.
Pan gafodd Siarter y Bobl ei ddrafftio gyntaf, fe gafodd cymal ei gynnwys a oedd yn argymell ymestyn yr hawl i bleidleisio i ferched. Cafodd ei ddileu yn y pen draw gan fod rhai aelodau鈥檔 credu y byddai鈥檙 cam 鈥榬adical鈥 yma yn atal dynion rhag cael y bleidlais.
Er hyn, roedd nifer enfawr o fenywod yn rhan o鈥檙 mudiad, er na fydden nhw鈥檔 derbyn y bleidlais pe bai鈥檔 llwyddiannus.
Yng Nghymru, arwyddodd dros fil o ferched Sir Fynwy y ddeiseb i鈥檙 Senedd yn 1839. Dros Brydain, roedd un o bob pump llofnod ar y ddeiseb gan fenywod.
Yn ne Cymru, datblygodd Siartiaeth fel mudiad teuluol ac roedd nifer o gyfarfodydd y Siartwyr yn haf 1839 yn rhai teuluol gydag awyrgylch carnifal.
Roedd Mary Brewer yn adnabyddus fel trefnydd Siartiaeth yng Nghasnewydd. Trefnodd Joan Williams, gwraig Zephaniah Williams, gyfarfodydd hefyd i fenywod yr ardal yn y Royal Oak ym Mlaina.
Llinell amser
Ers yn gynnar yn yr 20fed ganrif, mae merched a dynion yn cael pleidleisio mewn etholiadau ym Mhrydain.
Dyma rai o鈥檙 cerrig milltir mwyaf nodedig wrth ehangu鈥檙 hawl i bleidleisio.
1832 | Deddf Diwygio Mawr Prydain - Cafodd rhagor o ddynion yr hawl i bleidleisio. Cafodd merched eu hatal yn ffurfiol rhag pleidleisio. |
1838 | Siarter y Bobl - Cyflwynodd y Siartwyr chwe gofyniad er mwyn newid y system wleidyddol. |
1839 | Gwrthryfel Casnewydd - Cafodd hyd at 22 o Siartwyr eu lladd wrth orymdeithio yng Nghasnewydd. |
1918 | Deddf Cynrychiolaeth y Bobl - Cafodd bob dyn dros 21 yr hawl i bleidleisio. Cafodd merched dros 30 oed a oedd yn berchen ar d欧 yr hawl i bleidleisio. |
1928 | Deddf Etholfraint Gyfartal - Derbyniodd ferched yr un hawliau pleidleisio a dynion. |
1969 | Deddf Cynrychiolaeth y Bobl - Cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng o 21 i 18. |
2020 a 2021 | Pobl 16 ac 17 oed yn derbyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau鈥檙 Senedd ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru. |
Cwis - Mudiad y Siartwyr
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count1 of 3
- count2 of 3