Gwasanaeth meddygol a gofal iechyd am ddim sy鈥檔 cael ei ariannu gan trethiCyfraniad ariannol gorfodol i鈥檙 llywodraeth sy鈥檔 cael ei wario ar gynnal gwasanaethau. y mae pobl yn eu talu, yw鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Fideo - Y GIG
Sefydlu鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Adroddiad Beveridge
Yn 1941, comisiynodd y llywodraeth glymblaidLlywodraeth sydd wedi ei ffurfio o fwy nag un plaid wleidyddol. Syr William Beveridge i edrych ar ffyrdd o ailadeiladu Prydain yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1942, cyhoeddodd Beveridge ei adroddiad, ac roedd yn cynnwys cyfres o argymhellion. Nododd ei adroddiad fod angen curo 鈥榩um cawr鈥 er mwyn ailadeiladu鈥檙 wlad yn dilyn y rhyfel, sef:
- angen 鈥 incwm digonol i bawb
- afiechyd 鈥 mynediad i ofal iechyd
- anwybodaeth 鈥 addysg dda
- aflendid 鈥 tai digonol
- segurdod 鈥 gwaith 芒 chyflog
Un o鈥檌 argymhellion i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rhain oedd sefydlu gwladwriaeth les.
Aneurin Bevan
Y blaid Lafur enillodd yr etholiad yn 1945, a chafodd y Cymro, Aneurin Bevan, ei benodi鈥檔 Weinidog Iechyd 鈥 ac ef fu鈥檔 gyfrifol am sefydlu鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.
Roedd Aneurin Bevan wedi ei ysbrydoli gan system iechyd a oedd eisoes yn bodoli yn Nhredegar, sef ei dref enedigol.
Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar wedi sefydlu gwasanaeth gofal meddygol am ddim yn gyfnewid am gyfraniadau ariannol gan ei aelodau.
Gwelodd Aneurin Bevan lwyddiant y cynllun yma, gan fod y gymdeithas yn mynd i鈥檙 afael ag anghenion meddygol 95% o鈥檙 boblogaeth leol yn Nhredegar erbyn 1933. Dyma鈥檙 model y gwnaeth ei ddefnyddio er mwyn sefydlu鈥檙 Gwasnaeth Iechyd Gwladol.
Roedd y llywodraeth wedi creu 1,000 o theatrau llawdriniaeth newydd a degau o filoedd o welyau ychwanegol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd pobl a oedd wedi鈥檜 hanafu yn y rhyfel driniaeth ysbyty am ddim, hefyd. Profodd hyn felly ei bod hi鈥檔 bosib rhedeg gwasanaeth iechyd gwladol. Cafodd y Ddeddf Iechyd Gwladol ei phasio yn 1946 a鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu yn 1948. Roedd yn rhan o gyfres o newidiadau a gafodd eu rhoi ar waith a oedd yn defnyddio arian i ddarparu cymorth 鈥榦鈥檙 crud i鈥檙 bedd鈥Cymorth i berson o鈥檌 enedigaeth tan ei farwolaeth..
Beth oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei gynnwys?
- Triniaeth feddygol am ddim i鈥檙 cyhoedd.
- Presgripsiwn ar gyfer cyffuriau, gofal deintyddol a gofal optegol.
- Un system wladol a oedd yn cydlynu ysbytai gwirfoddol a lleol dan reolaeth byrddau iechyd.
Pam oedd rhai yn gwrthwynebu鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
Roedd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, sef corff proffesiynol y meddygon, o鈥檙 farn y bydden nhw鈥檔 colli arian o ganlyniad i鈥檙 gwasanaeth.
Doedden nhw ddim eisiau i鈥檞 haelodau weithio i鈥檙 llywodraeth yn unig ac ymladdon nhw i gadw eu hannibyniaeth.
Ym mis Ionawr 1948, cynhaliodd y gymdeithas bleidlais i weld os oedd y meddygon yn cytuno gyda鈥檙 penderfyniad i ymuno 芒鈥檙 GIG neu beidio.
Pleidleisiodd 40,814 yn erbyn ymuno, a 4,735 o blaid ymuno.
Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau pellach, penderfynodd Bevan y byddai rhai meddygon ymgynghorol yn cael gweithio yn y gwasanaeth iechyd a pharhau i drin cleifion preifat ar yr un pryd, gan ennill ffioedd uchel.
Dywedodd Bevan ei fod wedi sicrhau dechrau'r gwasanaeth drwy 鈥榮twffio cegau鈥檙 meddygon ag aur鈥.
Beth oedd llwyddiannau鈥檙 GIG?
Erbyn 5 Gorffennaf 1948, roedd tri chwarter y boblogaeth wedi cofrestru gyda meddygon o dan y cynllun iechyd newydd.
Ddeufis yn ddiweddarach, roedd 39,500,000 o bobl, neu 93% o鈥檙 boblogaeth, wedi鈥檜 cofrestru gyda鈥檙 gwasanaeth ac roedd dros 20,000 o feddygon teulu yn rhan ohono.
Sicrhaodd fod gan bawb fynediad at ofal iechyd am ddim.
Pa heriau wynebodd y GIG?
Yn y flwyddyn gyntaf, costiodd y GIG 拢248 miliwn i鈥檞 redeg, bron i 拢140 miliwn yn fwy na鈥檙 amcangyfrif gwreiddiol.
Cafodd swm o 拢2 filiwn ei neilltuo i dalu am sbectolau am ddim dros naw mis cyntaf y GIG, ond cafodd y swm ei wario mewn mater o wythnosau.
Roedd y llywodraeth wedi amcangyfrif y byddai鈥檙 GIG yn costio 拢140 miliwn y flwyddyn i鈥檞 redeg erbyn 1950, ond erbyn dechrau 1949, cyrhaeddodd y gost tua 拢400 miliwn.
Yn 1951, cyflwynodd y llywodraeth Lafur ffi am rai triniaethau deintyddol ac am bresgripsiynau ac ymddiswyddodd Aneurin Bevan oherwydd hyn.
Y GIG yng Nghymru heddiw
Yn 1969, cafodd y cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru ei roi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ers datganoliY broses o drosglwyddo rhai pwerau o lywodraeth ganolog i lefel fwy leol, ee o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. yn 1997, mae鈥檙 pwerau bellach dan reolaeth Llywodraeth Cymru a Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dros y blynyddoedd, mae鈥檙 gost o ddarparu gofal wedi cynyddu gan roi pwysau ar y gwasanaeth, ac nid yw pob elfen o鈥檙 GIG am ddim erbyn hyn, ee profion llygaid. Mae鈥檙 boblogaeth hefyd yn heneiddio yn sgil y gofal ac sydd felly鈥檔 rhoi fwy o straen ar y gwasanaeth.
Ers pandemig Covid-19, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020, mae鈥檙 GIG wedi wynebu pwysau aruthrol. Mae adrannau megis gwasanaethau iechyd meddwl a meddygon teulu dan straen ers y pandemig yn sgil diffyg staff, galw uwch a rhestrau aros hir, er enghraifft.
Fodd bynnag, mae gofal iechyd yn dal i fod am ddim i bob aelod o鈥檙 gymdeithas ac mae twf yn nisgwyliad oes pobl yn y DU.
Cwis - Y GIG
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count3 of 3
- count1 of 3