Defnyddio dadansoddiad SWOT
Mae鈥檔 bosibl gwneud dadansoddiad SWOT ar gyfer gwahanol syniadau a鈥檌 arddangos mewn matrics fel yr un yn y diagram.
Mae adnabod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau hefyd yn gallu dy helpu i benderfynu beth yw鈥檙 camau nesaf wrth greu syniadau.
Enghraifft bywyd go iawn
Edrycha ar yr enghraifft isod o ddadansoddiad SWOT ar gyfer y syniad o agor bar salad mewn ysgol.
Cryfderau | Lleoliad gwych | Natur unigryw | Trefniadau rheoli cryf |
Gwendidau | Lleoliad gwael | Dim llawer o elw | Diffyg profiad |
Cyfleoedd | Deddfwriaeth y llywodraeth | Newidiadau ym mhatrymau prynu defnyddwyr | Cynnydd mewn ymchwil a datblygu |
Bygythiadau | Cystadleuwyr | Y tywydd | Safonau amgylcheddol |
Cryfderau |
---|
Lleoliad gwych |
Natur unigryw |
Trefniadau rheoli cryf |
Gwendidau |
---|
Lleoliad gwael |
Dim llawer o elw |
Diffyg profiad |
Cyfleoedd |
---|
Deddfwriaeth y llywodraeth |
Newidiadau ym mhatrymau prynu defnyddwyr |
Cynnydd mewn ymchwil a datblygu |
Bygythiadau |
---|
Cystadleuwyr |
Y tywydd |
Safonau amgylcheddol |
Cryfder
Mae鈥檙 lleoliad yn gryfder, oherwydd mae llawer o gwsmeriaid posibl yno. Felly, er mwyn mynd 芒鈥檙 syniad hwn yn ei flaen, gallai rhywun ystyried technegau hyrwyddo addas.
Gwendid
Mae鈥檔 cymryd amser i ddatblygu enw da, a gallai hyn fod yn wendid ar y dechrau. Er hyn, mae鈥檔 bosibl datblygu enw da drwy annog cwsmeriaid posibl i flasu samplau am ddim.
Cyfle
Mae ymrwymiad y llywodraeth i fwyta鈥檔 iach yn gyfle, oherwydd efallai bod modd cael grant i helpu i sefydlu鈥檙 bar salad.
Bygythiad
Mae cystadleuwyr lleol yn fygythiad, ond byddai鈥檔 bosibl ymdopi 芒'r sefyllfa drwy beidio 芒 gadael i'r disgyblion adael safle'r ysgol yn ystod amser cinio.