Syniadau creadigol ac arloesol
Mae meddwl yn greadigol yn ffordd o ddatblygu syniadau newydd.
Gallai syniadau creadigol gynnwys:
- dyfeisio rhywbeth newydd
- dyfeisio ffordd newydd o wneud rhywbeth
- datblygu ffordd newydd o feddwl am rywbeth
- newid y ffordd mae rhywun arall yn edrych ar rywbeth
Meddwl yn greadigol
Mae meddwl yn greadigol yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae鈥檔 ffordd o wella cynnyrch, prosesau a gwasanaethau. Mae鈥檔 golygu bod modd lleihau costau cynhyrchu, creu cynnyrch a gwasanaethau newydd, neu eu gwella.
Enghraifft bywyd go iawn un
Dechreuodd gwasanaeth tacsi Uber o ganlyniad i feddwl yn greadigol. Roedd sefydlwyr y cwmni yn methu cael tacsi ar y stryd, felly dyma feddwl am syniad syml 鈥 pwyso botwm a chael reid.
Enghraifft bywyd go iawn dau
Lansiodd cwmni Sharp yr Aquos Crystal newydd yn 2014 gan dorri tir newydd ym maes technoleg ffonau symudol. Y ff么n hwn oedd y ff么n cyntaf i gael sgrin ymyl-i-ymyl a thechnoleg sgrin sy鈥檔 dirgrynu.
Roedd y dechnoleg hon yn golygu bod y sgrin yn dirgrynu pan oedd mewn cysylltiad 芒鈥檙 glust ac yn trosglwyddo s诺n, yn wahanol i seinydd arferol.
Arloesi
Mae arloesi yn cyfeirio at y broses o droi syniad yn gynnyrch, neu wasanaeth sy鈥檔 creu gwerth.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gallu ail-greu鈥檙 cynnyrch am gost dderbyniol, a bod yn rhaid i鈥檙 cynnyrch fodloni angen penodol.
Gall arloesi fod yn esblygol neu鈥檔 chwyldroadol.
- Mae arloesi esblygolCynnyrch a gwasanaethau sy鈥檔 cael eu creu o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg neu brosesau. yn digwydd pan fydd syniadau鈥檔 cael eu creu o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg neu brosesau. Does dim angen i鈥檙 canlyniad terfynol fod yn newydd, er enghraifft nid yr iPhone oedd y ff么n clyfar cyntaf.
- Mae arloesi chwyldroadolCynnyrch, gwasanaethau neu syniadau sy鈥檔 gwbl newydd. yn llawer mwy anghyffredin. Mae鈥檔 cyfeirio at greu rhywbeth cwbl newydd, er enghraifft Kinetic Sand.