成人快手

Agweddau tuag at gosbiCosbi yn yr 20fed ganrif: newidiadau mewn agwedd

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae鈥檙 hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Newidiadau yn yr agwedd tuag at gosbi yn yr 20fed ganrif

Ailgymhwyso ac adfer

Ailgymhwyso yw'r term ar gyfer cyflwyno rhywun i fywyd arferol di-drosedd. Mae adfer yn golygu adennill rhywbeth a gollwyd, neu ddigolledu rhywun am rhywbeth. Mae鈥檙 rhain yn agweddau modern tuag at gosbi.

Pwrpas carcharu, gwasanaeth cymunedol, dirwyon a gorchmynion llys yw i geisio ailgymhwyso troseddwyr a鈥檜 hatal rhag aildroseddu. Mae dioddefwyr yn cael eu digolledu am y troseddau, ac mae troseddwyr a gafwyd yn euog yn cael gwasanaeth cymunedol i geisio digolledu'r gymuned leol drwy waith buddiol.

Agweddau tuag at garchardai

Erbyn dechrau鈥檙 20fed ganrif dechreuodd agweddau tuag at garchardai newid. Yn gynyddol roedd carchardai yn cael eu hystyried yn gosb eu hunain. Roedd colli rhyddid mewn carchar yn ddigon o gosb.

Roedd pobl yn dechrau gweld nad oedd y , gwahanu a thawelwch a ddefnyddiwyd yn y 19eg ganrif yn gweithio ac y dylid eu diddymu.

Arweiniodd y newid mewn agwedd yma at welliannau mewn carchardai, a gallai carcharorion wisgo eu dillad eu hunain. Gwellodd bwyd carchardai, ac roedd mwy o gyrsiau addysg ar gael yn y carchardai. Y nod oedd y byddai鈥檙 rhain yn ailgymhwyso carcharorion ac yn rhoi sgiliau iddyn nhw allu canfod swyddi ar 么l eu rhyddhau.

Ar 么l 1945 roedd y gyfradd troseddu gynyddol wedi arwain at gynnydd anferth ym mhoblogaeth carchardai. Mae hynny wedi arwain at orlenwi a weithiau, diffyg mynediad i addysg a chyrsiau.

Bu ychydig o newid agweddau yn ystod yr oes fodern. Mae rhai pobl erbyn hyn yn credu bod carchar yn rhy hawdd ac nad ydyw yn ddigon o i garcharorion, ac nad yw carchardai yn carcharorion digon.