成人快手

Agweddau tuag at gosbiAd-daledigaeth ac ataliaeth: 1900 - 2020au

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae鈥檙 hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Ad-daledigaeth ac ataliaeth o鈥檙 19eg ganrif i鈥檙 21ain ganrif

19eg ganrif

Yn ystod y 19eg ganrif dechreuodd agweddau tuag at gosbi newid. Roedd yna ddefnydd cynyddol o garchardai, a mwy o bwyslais ar carcharorion. Roedd y syniad o a dial yn dechrau dod yn llai pwysig mewn perthynas 芒 chosbi.

Yn 1823 fe wnaeth Syr Robert Peel ddiddymu鈥檙 gosb eithaf ar gyfer 180 o droseddau. Arweiniodd deddfau eraill yn 1832 a 1861 at ostwng nifer y troseddau eithaf i bump yn unig:

  • lofruddiaeth
  • teyrnfradwriaeth
  • m么r-ladrad treisgar
  • ysbio
  • dymchwel storfa arfau neu iard dociau鈥檙 llynges

Mae hyn yn dangos llawer o ddatblygiadau yn yr agweddau tuag at gosbau.

  • Symud draw oddi wrth gosb gorfforol a鈥檙 gosb eithaf.
  • Symud tuag at y syniad o wneud y gosb yn addas i ba mor ddifrifol yw鈥檙 drosedd.
  • Sylweddoli bod angen bod yn ymarferol fel y byddai鈥檙 llysoedd yn ei dilyn.

Gellir gweld y dyhead am ad-daledigaeth yn gostwng yn y nifer llai o droseddau eithaf oedd yn bodoli. Dim ond oedd yn parhau fel cosb corfforol yn y ganrif hon. Tan 1948, pan ddaeth deddf seneddol 芒鈥檙 gosb i ben, gallai barnwyr orchymyn i droseddwyr gael eu chwipio, ac yn wir fe fydden nhw yn gwneud hynny. Hefyd dechreuwyd gweinyddu cosbau yn breifat, ac roedd hynny yn dangos bod llai o bwyslais ar ddial ac ad-daledigaeth. Daeth dienyddio cyhoeddus i ben yn 1868. Ar 么l hynny roedd dienyddio鈥檔 digwydd y tu mewn i garchardai y tu hwnt i lygaid y cyhoedd.

Ond roedd deddfwyr y 19eg ganrif yn dal eisiau i gosbau fod yn ddigon llym i atal troseddwyr. Roedd cosbau corfforol a'r gosb eithaf yn dal i gael eu defnyddio.

Yr 20fed a鈥檙 21ain ganrif

Yn yr oes fodern y bwriad yw bod cosbau yn ataliaeth i droseddwyr, ond nid drwy boen, sarhad na marwolaeth. Colli rhyddid drwy garcharu, dirwyon a gwasanaeth cymunedol yw鈥檙 prif fathau o gosbau erbyn hyn.

Yr agweddau modern tuag at gosbi yw diwygio ac carcharorion, a鈥檙 nod yw atal aildroseddu.