Rheoli amser
Technegau rheoli amser effeithiol
Blaenoriaethu
Mae hyn yn golygu penderfynu beth sy鈥檔 tasg frysTasg sy'n mynnu sylw yn syth ac sydd angen ei chwblhau mewn pryd. Gan amlaf, mae'n ddibynnol ar ddylwanwadau allanol. a beth sy鈥檔 tasg bwysigTasg nad oes angen ei chwblhau mewn pryd, ond sydd angen sylw gan ei bod yn gallu effeithio ar eraill. Dydy tasg bwysig ddim o angenrheidrwydd angen sylw yn syth. . Mae gosod y tasgau yn nhrefn eu blaenoriaeth yn syniad da, oherwydd mae鈥檔 bosibl neilltuo mwy o amser wedyn i鈥檙 tasgau pwysig a鈥檙 rhai sydd angen eu gwneud gyntaf. Y duedd naturiol yw canolbwyntio ar dasgau syml.
Trefnu
Techneg ddefnyddiol wrth reoli amser yw defnyddio log amser. Siart wedi鈥檌 rannu鈥檔 gyfnodau o 30 munud yw hwn. Y syniad yw bod rhywun yn llenwi鈥檙 siart 芒 gwybodaeth yngl欧n 芒 beth yn union gafodd ei wneud yn ystod y diwrnod, o amser codi tan amser mynd i鈥檙 gwely.
Mae鈥檔 ffordd o ganfod yr adegau prysur, yr adegau tawel a鈥檙 adegau pan fyddai rhywun wedi gallu gwneud defnydd mwy cynhyrchiol o鈥檌 amser.
Gwneud rhestri
Drwy sicrhau bod papur a phensil neu gyfarpar electronig cyfatebol ar gael yn dy fag, gelli di greu a monitro rhestr o bethau i鈥檞 gwneud unrhyw bryd. Dylai鈥檙 rhestr dynnu sylw at y tasgau pwysig yn ogystal 芒 chofnodi terfynau amser ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.
Dyfalbarhau
Pan fydd problemau'n codi, ac amser yn ymddangos yn brin, paid 芒 chynhyrfu a phoeni'n ormodol.
Mae dyfalbarhau鈥檔 golygu meithrin agwedd gadarnhaol at rwystredigaeth a methiant. Mae bod yn bendant ac yn rhagweithiol yn gallu helpu hefyd. Os wyt ti鈥檔 gweithio fel rhan o d卯m, efallai bydd angen i ti dirprwyoRhoi cyfrifoldeb ac awdurdod i rywun arall gwblhau tasg, er mai鈥檙 sawl sy鈥檔 dirprwyo sy鈥檔 gyfrifol yn y pen draw am lwyddiant y dasg. mwy, neu ofyn am fwy o ymroddiad gan y t卯m er mwyn cyflawni prif nod y gr诺p.
Peidio ag oedi
Mae oedi yn golygu gohirio pethau. Mae鈥檔 debyg mai nawr yw鈥檙 amser gorau i wneud rhywbeth rwyt ti wedi bod yn ei ohirio.