Cynllunio effeithiol
Mae cynllunio a threfnu yn sgiliau pwysig. Mae gallu trefnu鈥檔 effeithiol yn golygu gallu defnyddio amser, egni ac adnoddau i dy helpu di i gyrraedd dy dargedau.
Yn 么l Benjamin Franklin, un o sefydlwyr yr Unol Daleithiau, os yw rhywun yn cynllunio鈥檔 dda mae鈥檔 llai tebygol o fethu 芒 sicrhau鈥檙 canlyniad arfaethedig.
Nodau ac amcanion
Mae gosod nodau ac amcanion yn rhan hanfodol o鈥檙 broses gynllunio a threfnu.
Nodau
Y nod yw鈥檙 canlyniad rwyt ti'n gobeithio ei gyflawni. Datganiad cyffredinol sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 targedau, y dibenion neu鈥檙 bwriadSyniad y cafodd cynlluniau eu gwneud er mwyn ei roi ar waith. cyffredinol yw nod.
Amcanion
Amcanion yw'r camau unigol mae鈥檔 rhaid eu cwblhau er mwyn cyrraedd y targedau hynny. Mae amcanion yn fwy penodol, oherwydd mae angen iddynt fod yn ymarferol, yn bosibl eu cyflawni ac o fewn cyrraedd. Fel arfer, mae mwy nag un amcan.
Mae nodau ac amcanion fel arfer yn cael eu hysgrifennu fel berfenwY fersiwn fwyaf sylfaenol o ferf sydd i鈥檞 gweld mewn geiriadur., ee:
- datblygu
- dylunio
- creu
Enghraifft
Nod 鈥 Gwirfoddoli mewn lloches leol i anifeiliaid, a cheisio codi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn helpu鈥檙 lloches i fod yn cynaliadwyeddY gallu i gadw rhywbeth ar gyfradd neu lefel benodol. yn y dyfodol.
- Amcan un 鈥 ymchwilio i lochesau anifeiliaid lleol er mwyn dod o hyd i leoliad
- Amcan dau 鈥 dysgu sut i ofalu am yr anifeiliaid
- Amcan tri 鈥 ymchwilio a chynllunio digwyddiad codi arian
Question
Edrycha ar yr enghreifftiau a ganlyn a dewisa'r nod a鈥檙 amcanion:
- rhoi gwersi Ffrangeg amser cinio unwaith yr wythnos i ddisgyblion blwyddyn saith
- darganfod pa ddosbarth sydd ar gael ar gyfer y gwersi
- trefnu cyfarfod gyda鈥檙 athro/athrawes Ffrangeg i drafod cynnwys posibl ar gyfer y gwersi
- Nod 鈥 rhoi gwersi Ffrangeg amser cinio unwaith yr wythnos i ddisgyblion blwyddyn saith
- Amcan 鈥 darganfod pa ddosbarth sydd ar gael ar gyfer y gwersi
- Amcan 鈥 trefnu cyfarfod gyda鈥檙 athro/athrawes Ffrangeg i drafod cynnwys posibl ar gyfer y gwersi
Question
Edrycha ar yr enghreifftiau a ganlyn a dewisa'r nod a鈥檙 amcanion:
- trefnu cyfarfod gyda鈥檙 gofalwr i drafod opsiynau
- canfod faint o arian sydd ar gael i wneud y gwaith
- amlinellu sut y gallwn wella鈥檙 ardal gyffredin y tu allan i鈥檙 ysgol
- casglu gwybodaeth am y mathau o bethau y byddai鈥檙 disgyblion yn hoffi eu gweld
- Nod 鈥 amlinellu sut y gallwn wella鈥檙 ardal gyffredin y tu allan i鈥檙 ysgol
- Amcan 鈥 trefnu cyfarfod gyda鈥檙 gofalwr i drafod opsiynau
- Amcan 鈥 casglu gwybodaeth am y mathau o bethau y byddai鈥檙 disgyblion yn hoffi eu gweld
- Amcan 鈥 canfod faint o arian sydd ar gael i wneud y gwaith
Question
Edrycha ar yr enghreifftiau a ganlyn a dewisa'r nod a鈥檙 amcanion:
- trefnu cyfarfod gyda fy nhiwtor i rannu syniadau
- dewis gweithgaredd gwirfoddoli yn fy ardal leol
- edrych ar yr opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael ar-lein
- Nod 鈥 dewis gweithgaredd gwirfoddoli yn fy ardal leol
- Amcan 鈥 edrych ar yr opsiynau gwirfoddoli sydd ar gael ar-lein
- Amcan 鈥 trefnu cyfarfod gyda fy nhiwtor i rannu syniadau