Y gylchred carbon
Mae carbon yn cael ei drosglwyddo o’r atmosffer, fel carbon deuocsid, i bethau byw. Yna, mae’n cael ei drosglwyddo o un organebBod byw yw organeb - planhigyn, anifail, ffwng neu bacteriwm. i’r nesaf mewn moleciwlMae moleciwl yn gasgliad o un neu ragor o atomau sy'n cael eu dal wrth ei gilydd gan fondiau cemegol. Moleciwl ydy uned sylfaenol cyfansoddyn. cymhleth, ac yn cael ei ddychwelyd i’r atmosffer fel carbon deuocsid unwaith eto. Yr enw ar y broses hon ydy’r gylchred carbon.
1 of 4
Tynnu carbon deuocsid o'r atmosffer
Mae planhigion yn defnyddio carbon deuocsid o'r atmosffer ar gyfer ffotosynthesisProses gemegol a ddefnyddir gan blanhigion ac algâu i wneud glwcos ac ocsigen o carbon deuocsid a dŵr, gan ddefnyddio egni golau sydd wedi ei amsugno gan cloroffyl. Mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu fel isgynnyrch ffotosynthesis.. Mae'r carbon yn dod yn rhan o foleciwlau cymhleth yn y planhigion, megis proteinau, brasterau a charbohydradau.
Trosglwyddo carbon o un organeb i'r nesaf
Mae anifeiliaid yn cael eu carbon drwy fwyta planhigion neu anifeiliaid eraill.
Dychwelyd carbon deuocsid i'r atmosffer
Mae carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer trwy resbiradaethMae resbiradaeth yn newid cemegol sy'n digwydd mewn celloedd byw. Mae'n defnyddio glwcos ac ocsigen i gynhyrchu'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Mae carbon deuocsid yn sgil gynnyrch resbiradaeth. gan anifeiliaid, planhigion a micro-organebEnw arall ar microb. Mae’n ficrosgopig ac yn organeb, megis firws neu bacteria, neu ffwng megis burum.. Mae hefyd yn cael ei ryddhau trwy hylosgiadY broses o losgi trwy wres. Mae hylosgi cyfansoddion organig yn rhyddhau nwy carbon deuocsid i’r atmosffer. pren a thanwydd ffosil (megis glo, olew a nwy naturiol). Mae’r defnydd o danwydd ffosil yn cynyddu lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer yn raddol.
Mae dadelfeniadY broses o ymddatod deunydd i ryddhau maetholion yn ôl i’r pridd. neu bydredd yn rhyddhau carbon deuocsid hefyd. Mae’r broses hon yn digwydd yn gyflymach mewn amodau cynnes, llaith gyda digon o ocsigen gan ei fod yn cynnwys micro-organebau. Mae pydredd yn gallu bod yn araf iawn mewn amodau oer, sych a lle does dim llawer o ocsigen.