Ewtroffigedd
Mae rhai llygryddion yn effeithio ar yr amgylchedd drwy darfu ar y cydbwysedd mewn cadwynau bwyd.
Carthion
Os aiff carthion heb eu trin i afonydd, bydd micro-organebau'n eu dadelfennu nhw. Mae niferoedd y micro-organebau’n cynyddu'n ddramatig ac maen nhw'n defnyddio ocsigen o'r dŵr i gyflawni resbiradaeth aerobigResbiradaeth sydd angen ocsigen.. O ganlyniad, mae llai o ocsigen wedi hydoddi yn y dŵr, felly efallai na fydd organebau dyfrol fel pysgod a phryfed yn gallu goroesi.
Gwrteithiau nitrad
Mae'r rhain yn hydawdd, ac os cânt eu chwistrellu ar gnydau maen nhw'n golchi i mewn i afonydd a llynnoedd yn hawdd, sef trwytholchiGlaw'n golchi cemegion i'r pridd neu i ddyfrffyrdd.. Gallwn ni amlinellu'r broses fel hyn.
- Mae mwy o nitradau yn y dŵr yn cynyddu twf algâu a phlanhigion.
- Mae'r algâu'n ffurfio blŵm dros arwyneb y dŵr, gan atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill yn y dŵr.
- Mae'r planhigion hyn yn marw oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu cyflawni ffotosynthesisProses gemegol a ddefnyddir gan blanhigion ac algâu i wneud glwcos ac ocsigen o carbon deuocsid a dŵr, gan ddefnyddio egni golau sydd wedi ei amsugno gan cloroffyl. Mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu fel isgynnyrch ffotosynthesis. heb olau.
- Mae niferoedd microbau fel bacteria yn cynyddu wrth iddyn nhw dadelfennuOs ydy sylwedd yn dadelfennu, mae’n ymddatod yn gyfansoddion neu elfennau symlach. y planhigion marw, gan ddefnyddio ocsigen o'r dŵr i resbiradu wrth wneud hynny.
- Mae'r lefelau ocsigen yn isel ar ôl hyn, sy'n gallu achosi i bryfed dyfrol a physgod fygu, ac yn y pen draw mae'r llyn yn gallu mynd yn gwbl ddifywyd.
Question
Mae ffermwr yn chwistrellu gwrtaith nitrad ar ei dir o gwmpas llyn. Alli di roi'r camau hyn yn eu trefn i ddisgrifio sut gallai’r pysgod a'r organebau eraill yn y llyn farw o ganlyniad i hyn?
- Mae planhigion marw yn cael eu dadelfennu gan facteria, sy’n ddefnyddio ocsigen yn y dŵr yn ystod resbiradu.
- Mae blŵm algâu'n atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill. Mae'r planhigion yn dechrau marw.
- Mae gormodedd o faetholion (nitradau) o wrteithiau'n cael eu golchi o'r tir i mewn i afonydd gan ddŵr glaw.
- Mae lefelau ocsigen yn mynd mor isel mae pysgod ac organebau eraill yn mygu.
- Mae'r maetholion hyn yn achosi twf planhigion dyfrol o algâu a phlanhigion eraill.
- Mae gormodedd o faetholion (nitradau) o wrteithiau'n cael eu golchi o'r tir i mewn i afonydd gan ddŵr glaw.
- Mae'r maetholion hyn yn achosi twf planhigion dyfrol o algâu a phlanhigion eraill.
- Mae blŵm algâu'n atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill. Mae'r planhigion yn dechrau marw.
- Mae planhigion marw yn cael eu dadelfennu gan facteria, sy’n ddefnyddio ocsigen yn y dŵr yn ystod resbiradu.
- Mae lefelau ocsigen yn mynd mor isel mae pysgod ac organebau eraill yn mygu.
Rhywogaeth ddangosol
Rhywogaeth ddangosol yw organeb mae ei phresenoldeb neu ei habsenoldeb yn dangos i wyddonwyr os oes llygredd mewn ardal.
Llygredd aer
Rydyn ni'n aml yn defnyddio cennauOrganeb sy’n rhannol ffwng ac yn rhannol alga neu synofacteria. Mae cen yn tyfu mewn mannau agored – ar gerrig, er enghraifft – ac mae modd ei ddefnyddio fel rhywogaeth ddangosol ar gyfer llygredd aer. i ganfod llygredd aer, oherwydd mae llawer o rywogaethau sydd ddim yn tyfu mewn ardaloedd â llygryddion aer, fel y rhai sy'n cael eu cynhyrchu gan draffig.
Llygredd dŵr
Rydyn ni'n defnyddio infertebratAnifail heb asgwrn cefn. dŵr croyw i ganfod lefelau llygredd mewn dŵr croyw. Mae rhai organebau'n gallu goddef lefelau llygredd uchel, ond fydd eraill ddim i'w cael mewn mannau llygredig.
Mae pHGraddfa asidedd neu alcalinedd. Mae lefel pH (pŵer hydrogen) dan 7 yn asidaidd, mae lefel pH uwch na 7 yn alcalïaidd. asidig neu ddiffyg ocsigen mewn dŵr hefyd yn dynodi llygredd.