成人快手

Cefndir a chyd-destun

Cafodd y bardd ei fagu yn Llanrwst, sydd ond ddeng munud o daith o leoliad y gerdd hon, Coed Llugwy. Mae鈥檔 addas felly ei fod yn dychwelyd i鈥檙 ardal gyda鈥檌 fab ei hun, flynyddoedd yn ddiweddarach. Wrth fynd am dro gyda鈥檌 fab ar fore hyfryd o hydref cawn gipolwg ar ddylanwad estroniaid ar y llecyn prydferth hwn.

Map yn dangos lle mae Betws-y-Coed, mewn perthynas 芒 rhannau eraill o Ogledd Cymru.
Figure caption,
Map o ogledd Cymru

Mae twristiaeth yn rhan bwysig iawn o ddiwydiant Cymru. Mae nifer o drigolion pentrefi fel Betws-y-Coed yn dibynnu ar dwristiaeth ar gyfer eu bywoliaeth. Ond, yn ogystal 芒 gwario eu harian yma, mae鈥檙 bardd yn honni fod twristiaid a鈥檙 mewnfudwyr hefyd yn gadael eu marc yn llythrennol ar ardal, a hynny oherwydd eu bod yn llygru drwy adael eu sbwriel ar 么l.

Yn ogystal, mae鈥檙 ymwelwyr yn dylanwadu鈥檔 negyddol ar ein hiaith a鈥檔 diwylliant. Prin yw鈥檙 defnydd o鈥檙 enwau Cymraeg ar ardaloedd bellach. Yn anffodus, mae鈥檙 awydd i ddenu twristiaid yn aml yn cael blaenoriaeth dros ein hawydd i barchu a gwarchod ein hiaith.

Cred y bardd mai ein cyfoeth naturiol mwyaf gwerthfawr yw ein hiaith. Mae yma lygedyn o obaith ar ddiwedd y gerdd felly wrth i鈥檙 tad drosglwyddo鈥檙 iaith hon i鈥檞 fab drwy ddysgu geirfa gyfoethog am y coed iddo.