成人快手

Amcangyfrif a thalgrynnuTalgrynnu i鈥檙 rhif cyfan agosaf

Mae ffyrdd o symleiddio cyfrifiadau i ganfod atebion bras. Er enghraifft, does dim angen rhoi鈥檙 union rif bob tro; gelli di roi rhif bras trwy dalgrynnu i fyny neu i lawr.

Part of MathemategAmcangyfrif a thalgrynnu

Talgrynnu i鈥檙 rhif cyfan agosaf

Does dim rhaid rhoi鈥檙 union rif bob amser. Er enghraifft, petai \({54,785}\) o bobl yn byw mewn tref, gallet ti ddweud bod ei phoblogaeth tua \({55,000}\).

Wrth wneud hyn rydyn ni wedi talgrynnu \({54,785}\) i鈥檙 fil agosaf i roi \({55,000}\).

Talgrynnu i鈥檙 1,000 agosaf

Beth ydy \({1,484.5}\) i鈥檙 \({1,000}\) agosaf?

Mae rhwng \({1,000}\) a \({2,000}\), ond mae鈥檔 agosach at \({1,000}\), felly talgrynna i lawr.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i鈥檙 fil agosaf yn \({1,000}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1000 a 2000

Talgrynnu i鈥檙 100 agosaf

Beth ydy \({1,484.5}\) i鈥檙 \({100}\) agosaf?

Mae \({1,484.5}\) rhwng \({1,400}\) a \({1,500}\), ond mae鈥檔 agosach at \({1,500}\), felly talgrynna i fyny.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i鈥檙 cant agosaf yn \({1,500}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1400 a 1500

Talgrynnu i鈥檙 10 agosaf

Mae \({1,484.5}\) rhwng \({1,480}\) a \({1,490}\), ond mae鈥檔 agosach at \({1,480}\), felly talgrynna i lawr.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i鈥檙 deg agosaf yn \({1,480}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1480 a 1490

Talgrynnu i鈥檙 rhif cyfan agosaf

Mae \({1,484.5}\) rhwng \({1,484}\) a \({1,485}\) ac mae鈥檔 union hanner ffordd rhyngddyn nhw. Yn y sefyllfa hon talgrynna i fyny.

Mae \({1,484.5}\) wedi ei dalgrynnu i鈥檙 rhif cyfan agosaf yn \({1,485}\).

1484.5 ar raddfa rif rhwng 1484 a 1485