Beth ydy rhifau positif a negatif?
Mae unrhyw rif uwchben sero yn rhif positif. Mae rhifau positif yn cael eu hysgrifennu heb arwydd neu ag arwydd \(+\) o鈥檜 blaen ac maen nhw'n cael eu cyfrif o sero i鈥檙 dde.
Mae unrhyw rif o dan sero yn rhif negatif. Mae rhifau negatif yn cael eu hysgrifennu bob amser ag arwydd \(-\) o鈥檜 blaen ac maen nhw'n cael eu cyfrif o sero i鈥檙 chwith.
Cofia edrych ar yr arwydd o flaen rhif i weld a ydy e'n bositif neu'n negatif.
Question
Pa air, 鈥榤wy鈥 ynteu 鈥榣lai鈥, fyddai鈥檔 gywir yn y bylchau hyn?
a) Mae \({-7}\) yn ............... na \({-1}\).
b) Mae \({+62}\) yn ............... na \({-71}\).
c) Mae \({-136}\) yn ............... na \({-36}\).
a) Mae \({-7}\) yn llai na \({-1}\).
b) Mae \({+62}\) yn fwy na \({-71}\).
c) Mae \({-136}\) yn llai na \({-36}\).