Echdynnu metelau a鈥檙 gyfres adweithedd
Rydyn ni鈥檔 echdynnu metelau o mwynCraig sy鈥檔 cynnwys symiau digon mawr o sylwedd i allu ei echdynnu., sef creigiau yng nghramen y Ddaear sy鈥檔 cynnwys cyfansoddion metel. Dyma enghreifftiau o rai mwynau:
- haematit (Fe2O3)
- bocsit (Al2O3)
- galena (PbS)
Mae鈥檙 dull rydyn ni鈥檔 ei ddefnyddio i echdynnu metelau鈥檔 dibynnu ar sefydlogrwydd ei cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. yn y mwyn, sydd yn ei dro鈥檔 dibynnu ar adweitheddFfordd o fesur pa mor egn茂ol bydd sylwedd yn adweithio. Y mwyaf adweithiol yw'r sylwedd, y mwyaf yw ei adweithedd a'r mwyaf egn茂ol fydd ei adweithiau. y metel.
- Mae metelau adweithiol iawn, fel alwminiwm, yn ffurfio ocsidau a chyfansoddion eraill sefydlog. Rydyn ni fel rheol yn defnyddio electrolysisDefnyddio cerrynt trydanol i ddadelfennu (torri i lawr) cyfansoddyn. i echdynnu鈥檙 metelau hyn, ac mae angen llawer o gerrynt trydan (egni) i鈥檞 rhydwythiadAdwaith lle mae sylwedd yn colli ocsigen neu鈥檔 ennill electronau. nhw i echdynnu鈥檙 metel.
- Mae metelau llai adweithiol, fel haearn, yn ffurfio ocsidau a chyfansoddion eraill llai sefydlog. Rydyn ni鈥檔 aml yn rhydwytho鈥檙 cyfansoddion hyn 芒 charbon i echdynnu鈥檙 metelau, ac mae angen llai o egni i鈥檞 rhydwytho nhw i echdynnu鈥檙 metel.
Felly, mae鈥檙 dull sy'n cael ei ddefnyddio i echdynnu metel o鈥檌 fwyn yn dibynnu ar safle鈥檙 metel yn y gyfres adweithedd.
Adweithedd a dull echdynnu
Mae鈥檙 tabl yn dangos rhai metelau o鈥檙 mwyaf adweithiol i鈥檙 lleiaf adweithiol, ac yn nodi鈥檙 dulliau sy'n cael eu defnyddio i鈥檞 hechdynnu nhw.
Metel | Dull |
Potasiwm | Electrolysis |
Sodiwm | Electrolysis |
Calsiwm | Electrolysis |
Magnesiwm | Electrolysis |
Alwminiwm | Electrolysis |
(Carbon) | (Anfetel) |
Sinc | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Haearn | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Tun | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Plwm | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
(Hydrogen) | (Anfetel) |
Copr | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Arian | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Aur | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Platinwm | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Metel | Potasiwm |
---|---|
Dull | Electrolysis |
Metel | Sodiwm |
---|---|
Dull | Electrolysis |
Metel | Calsiwm |
---|---|
Dull | Electrolysis |
Metel | Magnesiwm |
---|---|
Dull | Electrolysis |
Metel | Alwminiwm |
---|---|
Dull | Electrolysis |
Metel | (Carbon) |
---|---|
Dull | (Anfetel) |
Metel | Sinc |
---|---|
Dull | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Metel | Haearn |
---|---|
Dull | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Metel | Tun |
---|---|
Dull | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Metel | Plwm |
---|---|
Dull | Rhydwytho 芒 charbon neu garbon monocsid |
Metel | (Hydrogen) |
---|---|
Dull | (Anfetel) |
Metel | Copr |
---|---|
Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Metel | Arian |
---|---|
Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Metel | Aur |
---|---|
Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Metel | Platinwm |
---|---|
Dull | Amrywiaeth o adweithiau cemegol |
Mae electrolysis yn cael ei ddefnyddio i echdynnu metelau mwy adweithiol na charbon, fel alwminiwm, a gallwn ni echdynnu metelau llai adweithiol na charbon, fel haearn, drwy eu rhydwytho nhw 芒 charbon.
Mae aur mor anadweithiol, mae鈥檔 bodoli fel y metel yn naturiol ac nid fel cyfansoddyn. Does dim angen ei wahanu鈥檔 gemegol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen adweithiau cemegol i gael gwared ag elfennau eraill allai halogi鈥檙 metel.