成人快手

Rhydocs i echdynnu haearn a metelau trosiannolOcsidio a rhydwytho

Mae adweithiau rhydocs yn digwydd wrth echdynnu metelau o鈥檜 mwynau, er enghraifft echdynnu haearn drwy ei rydwytho yn y ffwrnais chwyth. Mae gan y metelau trosiannol ymdoddbwyntiau a dwyseddau uchel, maen nhw鈥檔 ffurfio cyfansoddion lliw ac maen nhw鈥檔 gweithredu fel catalyddion.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Ocsidio a rhydwytho

Ocsidio yw pan mae sylwedd yn colli . Rydyn ni hefyd yn defnyddio鈥檙 term i nodi bod sylwedd yn ennill ocsigen. Er enghraifft, mae magnesiwm yn cael ei ocsidio wrth adweithio ag ocsigen i ffurfio magnesiwm ocsid:

magnesiwm + ocsigen 鈫 magnesiwm ocsid

2Mg + O2 鈫 2MgO

yw pan mae sylwedd yn ennill electronau. Rydyn ni hefyd yn defnyddio鈥檙 term i nodi bod sylwedd yn colli ocsigen. Er enghraifft, gallwn ni rydwytho copr(II) ocsid i ffurfio copr wrth iddo adweithio 芒 hydrogen:

copr(II) ocsid + hydrogen 鈫 copr + d诺r

CuO + H2 鈫 Cu + H2O

Fel arfer, mae ocsidio a rhydwytho鈥檔 digwydd ar yr un pryd mewn adwaith. Rydyn ni鈥檔 galw鈥檙 math hwn o adwaith yn adwaith rhydocs (rhyd 鈥 rhydwytho, ocs 鈥 ocsidio).

Cofia:

  • yr ocsidydd yw鈥檙 cemegyn sy鈥檔 achosi ocsidio drwy ddarparu ocsigen
  • 尘补别鈥檙 rhydwythydd yn achosi i鈥檙 cemegyn arall gael ei rydwytho drwy dynnu ocsigen

Edrych ar yr isod:

alwminiwm + haearn(III) ocsid 鈫 haearn + alwminiwm ocsid

2Al + Fe2O3 鈫 2Fe + Al2O3

Mae alwminiwm wedi cael ei ocsidio. Mae hyn yn golygu mai鈥檙 haearn(III) ocsid yw鈥檙 ocsidydd. Gallwn ni weld hefyd bod yr haearn(III) ocsid wedi cael ei rydwytho. Mae hyn yn golygu mai鈥檙 alwminiwm yw鈥檙 rhydwythydd.