˿

Grŵp 0 – y nwyon nobl

Mae heliwm, neon, argon, crypton a senon yn Grŵp 0. Mae gan bob un o’r rhain blisgyn electronau allanol llawn, sy’n golygu eu bod nhw eisoes yn sefydlog ac felly does dim angen iddynt golli nac ennill electronau. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gemegol anadweithiol (hynny yw, dydyn nhw ddim yn adweithio â dim byd o dan amgylchiadau normal).

Mae’r nwyon nobl yn rhannu’r priodweddau canlynol:

  • maen nhw’n anfetelau
  • maen nhw’n nwyon anadweithiol iawn
  • maen nhw’n ddi-liw
  • maen nhw’n bodoli fel atomau unigol (monatomig)
Y tabl cyfnodol â'r nwyon nobl wedi'u hamlygu: heliwm, neon, argon, crypton, senon a radon.

Mae gan atomau’r nwyon nobl blisg allanol llawn o electronau. Mae gan atomau heliwm ddau electron yn eu plisgyn allanol. Mae gan atomau’r nwyon nobl eraill wyth electron yn eu plisg allanol.

Defnyddio’r nwyon nobl

Fel arfer, rydyn ni’n defnyddio’r nwyon nobl mewn ffyrdd sy’n gysylltiedig â’r ffaith eu bod nhw’n anadweithiol, neu â’r ffaith eu bod nhw’n tueddu i allyrru golau os caiff cerrynt trydanol ei yrru drwyddynt.

Nwy noblSut rydyn ni’n ei ddefnyddio
HeliwmBalwnau parti, balwnau tywydd, awyrlongau
NeonArwyddion neon coch, laserau
ArgonNwy amddiffyn wrth weldio, amgylchynu’r ffilament mewn bwlb golau hen-ffasiwn
Nwy noblHeliwm
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioBalwnau parti, balwnau tywydd, awyrlongau
Nwy noblNeon
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioArwyddion neon coch, laserau
Nwy noblArgon
Sut rydyn ni’n ei ddefnyddioNwy amddiffyn wrth weldio, amgylchynu’r ffilament mewn bwlb golau hen-ffasiwn