Adeiledd electronig
Plisg electronau
Mae electronGronyn isatomig yw electron, sydd 芒 gwefr negatif a'i f脿s yn ddibwys o'i gymharu 芒 phroton a niwtron. wedi鈥檜 trefnu mewn gwahanol blisg o gwmpas y niwclewsRhan ganolog atom. Mae鈥檔 cynnwys protonau a niwtronau, a dyma lle mae鈥檙 rhan fwyaf o f脿s yr atom. Mwy nag un niwclews yw niwclysau.. Dim ond nifer penodol o electronau mae pob un plisgyn yn gallu ei ddal.
Y plisgyn mewnol sy鈥檔 cael ei lenwi gyntaf. Mae鈥檙 plisgyn hwn yn gallu dal uchafswm o ddau electron. Mae鈥檙 ail blisgyn yn gallu dal uchafswm o wyth electron. Pan mae hwn yn llawn, mae electronau鈥檔 mynd i鈥檙 trydydd plisgyn, sydd hefyd yn dal uchafswm o wyth electron. Yna mae鈥檙 pedwerydd plisgyn yn dechrau llenwi.
Plisgyn egni | Uchafswm nifer yr electronau |
Cyntaf | 2 |
Ail | 8 |
Trydydd | 8 |
Plisgyn egni | Cyntaf |
---|---|
Uchafswm nifer yr electronau | 2 |
Plisgyn egni | Ail |
---|---|
Uchafswm nifer yr electronau | 8 |
Plisgyn egni | Trydydd |
---|---|
Uchafswm nifer yr electronau | 8 |
Er enghraifft, mae gan atom lithiwm dri electron. Mae ganddo ddau yn y plisgyn cyntaf ac un yn yr ail blisgyn.
Mae gan atom carbon chwech electron. Mae ganddo ddau yn y plisgyn cyntaf a phedwar yn yr ail blisgyn.
Mae gan atom calsiwm 20 electron. Mae dau yn y plisgyn cyntaf, mae wyth yn yr ail blisgyn, mae wyth yn y trydydd plisgyn ac mae dau yn y pedwerydd plisgyn.