成人快手

Dulliau o ymladd trosedd20fed ganrif - technoleg

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw鈥檔 fwy effeithiol nag eraill. Mae鈥檙 dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

20fed ganrif - technoleg

Erbyn hyn mae鈥檙 heddlu yn defnyddio , camer芒u cylch cyfyng (CCTV) ac offer isgoch.

Ers y 1960au defnyddiwyd cyfrifiaduron i storio'r swm anferthol o ddogfennau a gwybodaeth a gasglwyd gan yr heddlu. Mae hynny wedi golygu ei bod hi鈥檔 llawer haws erbyn hyn i鈥檙 heddlu gwirio, cymharu a chyfnewid gwybodaeth rhwng heddluoedd.

Mae yna Gofnod Cyfrifiadurol Cenedlaethol canolog sy鈥檔 cynnwys cronfa ddata o:

  • olion bysedd
  • cofnodion
  • manylion cerbydau
  • gwybodaeth am bobl sydd ar goll

Mae technoleg fforensig wedi arwain at newidiadau mawr yn nulliau鈥檙 heddlu.

Roedd cyflwyno technoleg 么l bysedd ar ddiwedd y 19eg ganrif yn galluogi i鈥檙 heddlu greu cronfa ddata genedlaethol o gofnodion olion bysedd. Yna byddai swyddogion lleoliad troseddau (SOCO) yn chwilio鈥檙 lleoliad am olion bysedd er mwyn helpu i ganfod y troseddwyr. Mae鈥檙 heddlu yn cymryd olion bysedd troseddwyr gan ddefnyddio inc, neu鈥檔 gynyddol drwy ddefnyddio sganwyr electronig.

Erbyn hyn, mae swyddogion lleoliad troseddau yn archwilio lleoliadau troseddau, y dioddefwyr a dillad y dioddefwyr yn drylwyr er mwyn ceisio canfod gwallt, croen, llwch, dillad, gwaed a hylifau鈥檙 corff. Yna maen nhw'n gallu canfod DNA o'r samplau hyn ac yn ceisio paru'r DNA gyda rhai dan amheuaeth.

Mae鈥檙 heddlu wedi datblygu cronfa ddata o DNA ac mae cofnodion tua 6 miliwn o bobl wedi鈥檜 storio. Mae rhai o鈥檙 cofnodion hyn yn perthyn i bobl a ganfuwyd yn ddieuog, neu a ddiystyriwyd mewn ymholiadau. Mae nifer yn ymgyrchu i ddileu eu cofnodion o鈥檙 gronfa ddata.