成人快手

Dulliau o ymladd troseddCwnstabliaid a Gwarchodwyr/Gwylwyr

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw鈥檔 fwy effeithiol nag eraill. Mae鈥檙 dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Cwnstabliaid a Gwarchodwyr/Gwylwyr

Cwnstabliaid

Disgwyliwyd i鈥檙 Is-gwnstabl gyflawni鈥檙 holl brif ddyletswyddau oedd yn gysylltiedig 芒 phlismona lleol:

  • cadw trefn ar dafarndai a gwestai
  • cadw鈥檙 heddwch yn y plwyf
  • arestio pobl oedd wedi cyflawni trosedd
  • atal troseddau megis tresmasu a photsio
  • gweithredu cosbau megis chwipio crwydriaid
  • cadw llygaid ar ymddygiad prentisiaid
  • chwilio am grwydriaid

Pa mor effeithiol oedd Cwnstabliaid?

Roedd gwaith yr Is-gwnstabl yn ddi-d芒l ac roedd yn cael ei wneud yn ychwanegol at waith arferol bob dydd yr unigolion. Roedd hynny鈥檔 golygu bod rhai pobl yn amharod i weithio鈥檔 galed. Nid oedd yna unrhyw hyfforddiant i Gwnstabliaid ac nid oedd ganddyn nhw lifrai nac arfau.

Roedd rhai pobl yn anhapus ynghylch gorfod cadw llygaid ar ffrindiau a theulu yn y gymuned leol a gorfod eu riportio.

Roedd y rhan fwyaf o鈥檙 Cwnstabliaid yn grefftwyr neu ffermwyr yn yr ardal leol. Oherwydd hynny roedden nhw'n adnabod y bobl leol yn dda a byddai ganddyn nhw ychydig o barch yn y gymuned leol.

Gwarchodwyr

Gwarchodwr y nos yn Llundain gyda'i bicell a'i lusern.
Figure caption,
Roedd Gwarchodwyr, neu Wylwyr, yn patrolio strydoedd y dref gyda'r nos yn chwilio am weithgaredd troseddol

Eu gwaith oedd pobl rhag troseddu. Roedd eu gwaith hefyd yn cynnwys cyhoeddi鈥檙 tywydd a faint o鈥檙 gloch oedd hi yn ogystal 芒 helpu meddwon fynd adref.

Pa mor effeithiol oedd Gwarchodwyr?

Ychydig iawn o gyflog yr oedd Gwarchodwyr yn ei gael am wneud eu gwaith, felly roedd llawer yn amharod i wneud llawer o ymdrech. Roedd llawer yn cael eu canfod yn cysgu mewn tafarndai ac roedd llawer ohonyn nhw'n hen bobl, oedd yn golygu eu bod nhw鈥檔 llai effeithiol.

Cawson nhw eu galw鈥檔 Charlies, neu Charleys, ar 么l 1663 pan sefydlodd Siarl II lu o Warchodwyr cyflogedig er mwyn patrolio鈥檙 strydoedd ym mhob tref a dinas. Daeth Charlies i fod yn destun sbort, a byddai plant yn ceisio eu nhw. Yn yr oes Sioraidd, roedd y Charlies yn gynyddol yn defnyddio blychau gwylio, ac roedd y rhain yn dargedau hawdd.