Gwneud cymunedau yn llai agored i niwed
Er mwyn gwneud cymunedau yn llai agored i niwed, mae angen i sefydliadau fel Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau (USGS), llywodraethau ac elusennau wneud y canlynol.
Lleihau effaith y perygl
Gall defnyddio offer i fonitro gweithgarwch tectonig helpu i ragfynegi ac adnabod digwyddiadau mawr. Yn ychwanegol at hyn, mae sefydlu cylchfaoedd ymgilio a mapio peryglon yn dechnegau defnyddiol er mwyn lleihau effaith perygl.
Datblygu’r gallu i ymdopi â’r perygl
Mae addysgu pobl ynglŷn â beth i’w wneud, a chael ymarferion daeargryn rheolaidd, yn fuddiol er mwyn datblygu’r gallu i ymdopi. Mae cael timau gwasanaethau brys â digon o gyfarpar, ac sydd wedi cael eu hyfforddi’n dda, hefyd yn cynyddu gallu gwlad i ymdopi. Mae hefyd yn bosibl cynllunio adeiladau mewn ffordd sy’n gallu goroesi daeargrynfeydd yn well. Boed yn nendyrau yn San Francisco, UDA, neu’n ganolfannau cymunedol newydd yn Kali Jawi, Indonesia, mae’n bosibl diogelu adeiladau rhag daeargrynfeydd.
Mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi i gymunedau fod yn agored i niwed
Gall llywodraethau a sefydliadau helpu i wneud cymunedau yn llai agored i niwed drwy geisio lleihau anghydraddoldeb a thlodi mewn gwledydd. Dylai pawb, faint bynnag o arian sydd ganddo, gael yr un statws a’r un hawl i gael ei amddiffyn.