Beth sy’n gwneud cymunedau’n fwy agored i niwed?
Mae tri phrif ffactor sy’n gallu cynyddu’r bygythiad i bobl:
- ffactorau ffisegol – maintHyd a lled a chryfder digwyddiad y digwyddiad a’r math o ddigwyddiad
- ffactorau cymdeithasol – nifer y bobl sy’n byw mewn ardal yn agos at berygl
- ffactorau economaidd – pa mor agored i niwed yw’r bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddigwyddiad – mae hyn hefyd yn gysylltiedig â thlodi
Mae bod yn agored i niwed, yng nghyd-destun peryglon, yn ymwneud â gallu unigolyn neu grŵp i ragfynegi, dygymod â, gwrthsefyll a dod dros effaith perygl naturiol, neu berygl wedi’i achosi gan ddyn.
Ffactorau ffisegol
Er mwyn penderfynu beth yw maint digwyddiad folcanig, mae gwyddonwyr neu fylcanolegwyr yn defnyddio mesur sy’n cael ei alw’n Fynegrif Ffrwydroldeb Folcanig (VEI). Mae’n mesur uchder a chyfaint y pluenMàs y defnyddiau a gaiff eu taflu allan o losgfynydd. neu’r ffrwd o ddeunydd sy’n cael ei saethu allan o losgfynydd. Mae pob pwynt ar y raddfa ddeng gwaith yn fwy na’r pwynt o’i flaen.
Mae graddfa maint moment (Mw) yn cael ei defnyddio i fesur daeargrynfeydd. Mae'n mesur lluoswm y pellter mae ffawt yn ei symud a'r grym sydd ei angen i'w symud. Mae pob rhif ar y raddfa ddeng gwaith yn fwy na'r rhif blaenorol.
Ѳ’r math o berygl tectonig hefyd yn ffactor ffisegol pwysig a all gynyddu bygythiad echdoriad. Yn aml, pan fydd llosgfynydd yn echdorri, bydd lafa’n llifo a bydd cymylau lludw’n ffurfio. Y math mwyaf angheuol o berygl folcanig yw llifoedd pyroclastig a laharLleidlif enfawr sy'n digwydd ar ôl i haenau o ludw neu ddeunydd pyroclastig gymysgu gyda dŵr glaw..
Ym Mryniau Soufrière ar ynys Montserrat (rhwng 1995 ac 1997), daeth wal anferth o lif pyroclastig chwilboeth, â thymereddau o dros 600°C, i lawr ochr y llosgfynydd ar gyflymder o dros 100 cilometr yr awr.
Un arall o sgil effeithiau angheuol echdoriad folcanig yw lahar. Gall y llif llaid ysgubo ffyrdd, pontydd ac adeiladau ymaith. Mae tir amaethyddol a chnydau’n cael eu dinistrio, gan roi pwysau mawr ar gyflenwadau bwyd yn yr ardal.