Mi fydd pobl ar draws Cymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr. Mi fydd cardiau yn cael eu danfon, prydau bwyd rhamantus yn cael eu bwyta a llwyau caru yn cael eu rhoi i gariadon. Ond pam ydyn ni'n dathlu'r diwrnod yma? Pwy oedd Dwynwen? Pam ei bod hi'n cael ei hystyried fel Santes y Cariadon?
Dwynwen, ferch Brychan Brycheiniog
Efallai byddwch yn synnu o glywed nad oedd Dwynwen wedi cael llawer o lwc mewn cariad ei hun!
Mae hanes Dwynwen yn mynd yn 么l i'r pumed ganrif ac fel cynifer o hen straeon poblogaidd mae sawl fersiwn o'i hanes. Yn 么l y s么n, roedd Dwynwen yn ferch i'r brenin Brychan Brycheiniog ac yn dod o Aberhonddu yn wreiddiol. Mae rhai'n dweud bod gan Brychan 24 merch a fersiynau eraill o'r hanes yn awgrymu bod ganddo 36 merch. Roedd Dwynwen yn cael eu hystyried fel yr harddaf o holl ferched Brychan - felly tipyn o gamp!
Syrthiodd Dwynwen mewn cariad gyda Maelon, mab i frenin arall. Roedd y ddau am briodi ond roedd gan ei thad gynlluniau eraill. Roedd Brychan Brycheiniog eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Rhedodd Dwynwen i'r goedwig wedi ei siomi a gwedd茂o ar Dduw i'w rhyddhau hi o'r cariad.
Tri dymuniad
Daeth angel i ymweld 芒 hi gan roi diod arbennig iddi i anghofio am Maelon ac i'w droi'n dalp o rew. Wedi hyn ymddangosodd Duw a chynnig tri dymuniad iddi.
- Yn gyntaf, roedd Dwynwen eisiau dadmer Maelon.
- Yn ail, mynnodd bod Duw yn helpu pob p芒r o wir gariadon.
- Yn olaf dymunodd na fyddai hi byth yn priodi.
Ynys Llanddwyn
Wedi i'r dymuniadau gael eu gwireddu fe aeth Dwynwen i fyw ar ynys bellennig a sefydlu lleiandy. Gelwir yr ynys yn Ynys Llanddwyn ('Llan' sef Eglwys a 'dwyn' ar 么l Dwynwen).
Roedd ffynnon ger yr eglwys ac mae'n debyg bod ynddi bysgodyn oedd yn gallu darogan dyfodol cyplau. Pe bai cyplau yn mynd yno a bod y d诺r yn berwi yna byddent yn cael lwc dda. Daeth yr eglwys a'r ffynnon yn safle pererindodau canoloesol.
Gellir gweld adfeilion y lleiandy ar yr ynys o hyd.
Felly os ydych chi'n dathlu diwrnod Santes Dwynwen trwy roi carden, llwy garu, neu wrth gael pryd o fwyd rhamantus, cofiwch am hanes Dwynwen ar ynys Llanddwyn.
Cymru arswydus 鈥 Noson Calan Gaeaf
Noson Calan Gaeaf yw Ysbrydnos, cyfnod pan all ysbrydion grwydro byd y byw
Cwis: Tywysogion Cymreig
Faint wyt ti'n ei wybod am hanes Llywelyn ap Gruffydd a'r tywysogion Cymreig?
Ymosodiad cyntaf Merched Beca
Pryd, lle a pham trawodd Merched Beca am y tro cyntaf erioed?