Mae traddodiadau brawychus Calan Gaeaf yn cael eu cysylltu â Gogledd America’n aml, ond tybed a yw gwraidd y traddodiadau hyn yn agosach i ni nag yr oedden wedi’i feddwl?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod gwreiddiau Calan Gaeaf yn deillio o ŵyl paganaidd a Cheltaidd yng ngogledd Ewrop o'r enw Samhain. Mae llai o bobl yn ymwybodol o'r traddodiadau Cymreig unigryw ac erchyll sy’n rhagflaenwyr i’r hyn sy’n cael ei adnabod fel Calan Gaeaf erbyn hyn.
"Mae Noson Galan Gaeaf yn deillio o’r hen ŵyl Geltaidd Samhain, a oedd yn nodi diwedd yr hydref a thymor y cynhaeaf, a dechrau’r gaeaf," esbonia Dr Emma Lile, awdur ethnoleg a llên gwerin.
Roedd Dr Lile arfer bod yn guradur defodau traddodiadol yn Amgueddfa Cymru, felly mae hi’n deall diwylliant a thraddodiadau Cymreig i’r dim. "Ar noson 31 Hydref, sef dechrau’r flwyddyn Geltaidd newydd, roedd y ffin rhwng y bywyd hwn a’r byd a ddaw yn aneglur, ac ysbrydion yn crwydro'r ddaear."
Golau a thywyll
Roedd y calendr Celtaidd yn rhannu’r flwyddyn yn hanner golau a hanner tywyll. Mewn oes heb archfarchnadoedd a gwres canolog, roedd bwyd yn brin a phobl yn ofn na fydden nhw na’u da byw yn goroesi’r tywydd caled.
Roedd llên gwerin gyn-Cristonogol yn awgrymu mai diwrnod cyntaf y gaeaf, dechrau hanner tywyll y flwyddyn, oedd yr adeg pan oedd y llen rhwng tir y byw a’r ‘byd arall’, sef Annwn, ar ei theneuaf ac ysbrydion yn gallu croesi i dir y byw. Wedi’u cyfuno â’r ofergoelion arswydus ac iasol cyn-Cristonogol, ganwyd Noson Galan Gaeaf.
“O tua’r 9fed ganrif ymlaen, fe wnaeth yr eglwys Gristnogol fabwysiadu ac addasu rhai o draddodiadau Samhain yn ei gwyliau crefyddol Gŵyl yr Holl Saint (1 Tachwedd), a Gŵyl yr Holl Eneidiau (2 Tachwedd),” ychwanega Dr Lile.
"Roedd y ddwy wŷl hyn yn ymwneud â chofio a pharchu’r meirw… yn hytrach na chael gwared ar y traddodiadau paganaidd yn llwyr, aeth y Cristnogion ati i ymgorffori rhai defodau yn eu ffydd eu hunain, a’u hawlio fel eu defodau nhw."
Yn yr oes gyn-ddiwydiannol, roedd newid y tymhorau a’r gred bod ysbrydion yn crwydro’r Ddaear yn cael eu nodi â nifer o draddodiadau ac ofergoelion arswydus. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain wedi peidio erbyn dechrau'r 20fed ganrif.
Hwch Ddu Gwta
Roedd y bwystfil chwedlonol hwn yn un o’r ysbrydion mwyaf brawychus a oedd yn gysylltiedig â Noson Galan Gaeaf. Wrth i’r nos gau, byddai un o’r dynion lleol yn gwisgo croen mochyn ac yn hel y plant adref o goelcerth y pentref. Dywedir wrth y plant y byddai’r Hwch Ddu arswydus yn dal y plentyn olaf i gyrraedd adref y noson honno.
Roedd hyn yn cael ei ddefnyddio fel gêm i godi ofn ar y plant, ond hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd adref ar amser ac i'w dysgu am beryglon crwydro’n rhy bell ar eu pen eu hunain.
Gwrachod
Byddai dynion yn crwydro pentrefi wedi gwisgo mewn carpiau a mygydau, neu ddillad merched weithiau, gan fynd o ddrws i ddrws yn chwilio am geiniogau, ffrwythau a chnau. Bydden nhw wedyn yn yfed yn y tafarndai lleol. Roedd pobl yn credu y byddai gwisgo fel hyn yn hel ysbrydion aflan ymaith, ond efallai fod dychryn pobl er mwyn cael danteithion ganddyn nhw yn bwrpas arall i’r gwisgoedd.
Coelcerth
Byddai pobl leol yn dod ynghyd ar Noson Galan Gaeaf, gyda phob un yn ysgrifennu ei enw ar garreg. Byddai’r cerrig yn cael eu rhoi yn y goelcerth. Y bore wedyn, byddai’r lludw’n cael ei archwilio. Os oedd y garreg â’ch enw chi ar goll, credwyd bod hynny’n argoel bod eich marwolaeth ar ddod.
Y Ladi Wen
Mae’r Ladi Wen yn ddrychiolaeth o fytholeg Geltaidd, sydd wedi gwisgo mewn gwyn i gyd. Mae rhai yn dweud ei bod yn gwarchod mynwentydd a chroesffyrdd rhag ysbrydion tywyllach eraill. Mae eraill yn dweud bod pwrpas mwy sinistr iddi – denu teithwyr diniwed i’w tynged drwy ofyn am gymorth neu gynnig trysor. Roedd eraill yn honni ei bod hi heb ben ac yn fforio cefn gwlad yn chwilio am ddioddefwyr gyda’i chydbechadur, yr Hwch Ddu Gwta.
Traddodiadau a chredoau eraill
- Roedd maip yn cael eu cafnu a’u rhoi ar ochr y lôn gyda channwyll ynddynt. Roedd hyn yn ddylanwad cynnar ar yr arferiad cyfarwydd o gerfio pwmpen, siŵr o fod. Pwrpas hyn oedd codi ofn ar bobl ddiarwybod a oedd yn pasio.
- Roedd rhagfynegi’r dyfodol yn gyffredin ar Noson Galan Gaeaf, wrth i bobl edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod gyda gobaith a phryder. Mewn her hynod o ryfedd, roedd pobl yn credu pe baech yn rhedeg o amgylch yr eglwys leol dair gwaith ac yna’n edrych drwy dwll y clo am hanner nos, byddech chi’n gweld wynebau’r rheini a fyddai’n marw dros y flwyddyn nesaf.
- Byddai merched sengl yn tynnu croen afal a’i daflu dros eu hysgwydd, gan gredu y byddai ei siâp ar ôl glanio yn datgelu llythyren gyntaf enw eu gwir gariad.
- Byddai pobl leol ofnus yn cadw draw o fynwentydd, croesffyrdd a chamfeydd, gan gredu bod ysbrydion yn casglu yno.
Calan Gaeaf Modern
Mae Dr Lile yn awyddus i ddweud er bod masnacheiddio Calan Gaeaf yn yr 21ain ganrif wedi newid yr ŵyl yn sylweddol, mae themâu a nodweddion Noson Galan Gaeaf yn dal yn bodoli wrth i ni ddechrau ar hanner tywyll y flwyddyn: "Mae’r dyddiad yr un fath, fel y mae’r pwyslais ar ysbrydion, marwolaeth a'r byd a ddaw."
Er gwaethaf dylanwad o’r ochr arall i Fôr Iwerydd, mae ysbryd noson fwyaf arswydus y flwyddyn wedi parhau ar draws yr oesau. "Mae dylanwad traddodiadau Americanaidd yn drawiadol iawn, fel addurno eich tŷ neu fynd ar lwybr cast neu geiniog (‘trick or treat’). Ond o ran yr emosiynau dynol sy’n gysylltiedig â Chalan Gaeaf - rhagweld, ofn a chyffro i enwi dim ond tri - mae’r rhain yn dragwyddol a bythol go iawn."
TGAU Hanes
TGAU Cymraeg
TGAU Hanes