Er bod Game of Thrones yn llawn hud, lledrith a dreigiau, mae鈥檙 stori wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau hanesyddol a phobl go iawn.
Prif ysbrydoliaeth yr awdur, George R. R. Martin oedd Rhyfeloedd y Rhosynnod (1455 - 1485). Roedd hon yn ganrif hynod o dreisgar, pan fu farw chwarter o ddynion pendefigaidd Lloegr drwy drais.
Rhag ofn dy fod yn meddwl bod ni鈥檙 Cymry鈥檔 angylion, mae hanes y tywysogion Cymreig yn ystod y canrifoedd blaenorol yn un cythryblus hefyd. Nid yn unig roedden nhw鈥檔 ymladd yn erbyn eu gelynion, y Normaniaid, roedden nhw hefyd yn ymladd yn erbyn ei gilydd a hyd yn oed yn erbyn aelodau o鈥檜 teuluoedd eu hunain.
Mae yna gysylltiad Cymreig rhwng Game of Thrones a Rhyfeloedd y Rhosynnau hefyd. Ar ddechrau鈥檙 stori, mae Daenerys Targaryen wedi ei halltudio. Mae鈥檔 dychwelyd i Westeros gyda鈥檙 bwriad o gipio yr Orsedd Haearn. Cyn i Harri Tudur roi diwedd ar Ryfeloedd y Rhosynnod a chipio coron Lloegr drwy ennill Brwydr Bosworth, bu鈥檔 alltud yn Llydaw am flynyddoedd. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod gan Daenerys Targaryen dair draig i'w helpu i ymladd ei gelynion, a bod yna ddraig ar arfbais Harri Tudur.
Nawr te, n么l at y tywysogion cwerylgar Cymreig yna. Rho gynnig ar ein cwis er mwyn darganfod faint rwyt ti鈥檔 ei wybod amdanyn nhw.
Y ddau Lywelyn
Gwylia'r fideo er mwyn dysgu sut daeth y ddau Lywelyn i reoli Cymru
Hanes CA3
Clipiau fideo am hanes Cymru - o'r Normaniaid at y byd modern
TGAU Hanes
Cynnwys i dy helpu di adolygu TGAU Hanes